

Joe Cavalli-Price
Pianydd Cydweithredol, Cyfarwyddwr Cerdd a Hyfforddwr Llais
Graddiodd Joe gyda gradd BMus mewn Astudiaethau Llais ac Opera yn 2020.
Ar ôl graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mae Joe wedi mynd ymlaen i sefydlu Music in Hospices, sefydliad celfyddydau creadigol sy’n ymroddedig i ofal lliniarol. Wedi’i enwi’n un o 20 Prif Fenter Gymdeithasol Deutsche Bank yn 2024 a 2025, mae ei eiriolaeth dros gydraddoldeb gofal lliniarol wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, gydag eitemau nodwedd ar Saturday Live Radio 4, Today Programme, a BBC Breakfast yn cyrraedd dros 5 miliwn o bobl.
‘Mae’r gymuned wrth galon Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gydag ymgysylltu cymdeithasol wedi’i wreiddio yn ei hyfforddiant. O lawenydd plant ysgol gynradd yn clywed opera am y tro cyntaf drwy ei brosiect Opera Ysgolion, i gyngherddau cydweithredol mewn cartrefi gofal dementia a chanolfannau cymunedol lle mae cerddoriaeth yn dod yn feddyginiaeth, llywiodd y profiadau cynnar hyn fy meddylfryd. Yn 18 oed yn unig, gwelais drosof fy hun bŵer trawsnewidiol cerddoriaeth.
Ail-luniodd y Coleg fy nealltwriaeth o yrfa ym maes cerddoriaeth - perfformio â phwrpas. Trwy ei ymrwymiad i’r gymuned, gwelais gerddoriaeth fel offeryn ar gyfer lles cymdeithasol: mynegiant anorchfygol o ysbryd dynol a all bontio rhaniadau economaidd-gymdeithasol, lleddfu dioddefaint ac uno cymunedau.
Mae Music in Hospices wedi’i adeiladu ar yr ethos hwn. Os oes ton o lesiant i fod ar y blaned hon yn y dyfodol, bydd pobl greadigol yn greiddiol iddi. Mae cerddorion yn therapyddion ar gyfer yr enaid dynol, ac yn CBCDC y dysgais y gwirionedd hwnnw gyntaf.’Joe Cavalli-Price
Mae partneriaethau arloesol gyda Sefydliad Cerddoriaeth Ryngwladol Lang Lang, Hospice UK a chydweithwyr ymchwil yng Ngholeg y Brenin Llundain yn helpu i drawsnewid dyfodol gofal lliniarol.
Gyda gyrfa amlddisgyblaethol, uchelgais Joe yw gwneud ei waith elusennol yn ffocws llawn amser iddo.
Ochr yn ochr â hyfforddi theatr gerddorol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Trinity Laban ac East 15, rydw i newydd orffen gweithio fel pianydd rihyrsal a hyfforddwr llais ar gyfer 'Nine the Musical' yn Theatr Lowry Manceinion. Roedd cydweithio â thalentau o’r West End a Broadway — gan gynnwys Ramin Karimloo, Zizi Strallen, Victoria Hamilton-Barritt, a Melissa James — yn brofiad rhyfeddol.
Yr haf hwn, byddaf yn teithio i Awstralia fel cyfeilydd i Gôr Tîm Rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon, gyda pherfformiadau ar draws Sydney, Melbourne a Brisbane. Ar ôl dychwelyd i Lundain, byddaf yn lansio 'Little Elephant Visits' the Hospice - llyfr plant cyntaf y DU a gynlluniwyd i gefnogi teuluoedd sy’n llywio eu ffordd drwy ofal lliniarol.