

Alis Huws
Telynores
Yn dilyn ei hastudiaethau is-raddedig, graddiodd Alis ag MMus yn 2019.
Mae’r cyn Delynores Frenhinol swyddogol Alis yn rhan o draddodiad hir o delynorion brenhinol sydd â chysylltiadau â’r Coleg: Cymrawd, un o raddedigion y Coleg a chyfarwyddwr artistig Cyngres Telynau’r Byd 2020, Catrin Finch, oedd y delynores gyntaf i ddal y swydd ar ôl atgyfodi’r rôl. Fe wnaeth Hannah Stone hefyd raddio o’r Coleg, ac mae’r Delynores Frenhinol bresennol, Mared Pugh-Evans, hefyd yn un o’n graddedigion.
Wedi’i henwi ar restr ‘30 Under 30 Rising Stars’ Classic FM ar gyfer 2024, mae hi’n rhoi datganiadau’n rheolaidd ledled y DU ac yn rhyngwladol, ar ôl teithio i Japan, Ewrop, yr Unol Daleithiau, Hong Kong a’r Dwyrain Canol. Mae hi’n artist recordio unigryw i Decca Classics, ar ôl cydweithio â Sheku Kanneh-Mason a Jess Gillam.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Gofynnwyd i Alis berfformio yn Seremoni Goroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III, ‘i gydnabod perthynas a chysylltiad hir a dwfn y Brenin â Chymru.’ gan berfformio trefniant Syr Karl Jenkins ar gyfer telyn a llinynnau, yn ogystal â bod yn rhan o Gerddorfa’r Coroni fawreddog, a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac sy’n cynnwys sawl cerddor arall a raddiodd o CBCDC.
Bydd Alis yn cynnal gweithdai ac yn rhoi datganiadau’n rheolaidd mewn ysgolion ac ysbytai, yn ogystal â chyngherddau rhyngweithiol i gleifion dementia, gan weithio gyda’r elusen Lost Chord a Cherddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.
‘Yr un wythnos ag yr o’n i’n gorffen fy nghwrs Meistr, cefais fy mhenodi yn delynores swyddogol Tywysog Cymru ar y pryd, a oedd yn anhygoel o gyffrous. Ers hynny, dw i wedi bod yn ffodus i gael perfformio yn fyd-eang, a dw i wrth fy modd â’r amrywiaeth sydd yn fy ngwaith. Fel llawer o’m cydweithwyr, mae gen i yrfa bortffolio, lle dw i’n gwneud tipyn bach o bopeth - o chwarae mewn cerddorfa a rhoi datganiadau unigol i gerddoriaeth siambr, gwaith maes, a digwyddiadau.
Dw i’n frwdfrydig iawn ynglŷn â dod â cherddoriaeth i’r gymuned, un o gonglfeini fy ngwaith, a ddechreuodd yn y Coleg ac sydd wedi tyfu fel caseg eira ers hynny i gydweithio ag elusennau amrywiol fel Live Music Now. Dw i’n cofio’r modiwl arwain gweithdai yn fy nhrydydd flwyddyn, a agorodd ddrysau at gerddoriaeth mewn ysgolion ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, dw i’n gerddor preswyl mewn ysgol anghenion arbennig, a dw i wrth fy modd. Mae’n rhoi cydbwysedd arbennig i mi yn fy ngwaith, ac mae’n llawn gwrthgyferbyniadau.
Mi fydda i’n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd a gefais fel myfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cymru, cyfleoedd sydd wedi fy mharatoi ar gyfer y profiadau anhygoel dw i wedi’u cael ers graddio. Y peth pwysicaf i mi yw’r teimlad o fod yn rhan o deulu cefnogol. Hyd yn oed heddiw, dw i’n gwybod y galla i ofyn i bobl am gyngor, arweiniad, neu gefnogaeth gyffredinol. Mae bod yn rhan o’r teulu yma yn brofiad arbennig, a bydd y ffrindiau dw i wedi’u gwneud yno yn ffrindiau am oes.’Alis Huws