Neidio i’r prif gynnwys

Patrick Rimes

Cerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd. 

Mae’r cyn-fyfyriwr Patrick Rimes bellach yn addysgu’r adran Llinynnau yn CBCDC.

Yn gerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd, mae Patrick bellach yn addysgu llinynnau a cherddoriaeth draddodiadol yn CBCDC.

Cyd-sefydlodd, ac mae’n arweinydd preswyl, Camerata Gogledd Cymru, cerddorfa siambr sy’n hyrwyddo repertoire cyfoes. Fel addysgwr angerddol cerddoriaeth draddodiadol, mae’n aelod sylfaenol y grwpiau Calan a VRi ac wedi derbyn nifer o wobrau yng Ngwobrau Gwerin Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr artistig AVANC, Band Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Dwi wir yn mwynhau addysgu yma yn y Coleg gan fod y myfyrwyr mor naturiol chwilfrydig ac yn awyddus i amsugno gwybodaeth. Yr hyn sy’n rhyfeddol yw bod gan bob un ohonynt hunaniaeth gerddorol gref yn barod. Pan oeddwn i’n iau, doedd y llwybr hybrid roeddwn i’n ei ragweld, sef cyfuno cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth nad yw’n glasurol, ddim ar gael yn rhwydd, ond nawr mae gen i’r hyn a allai gael ei alw’n yrfa bortffolio nodweddiadol. Fy nod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw helpu myfyrwyr i archwilio eu hunaniaeth gerddorol unigryw eu hunain a meithrin eu perthynas â cherddoriaeth.

Dwi’n ymfalchïo’n fawr yn fy ngwaith gyda phrosiect Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Mae wedi bod yn allweddol i greu llwybr i’r diwydiant cerddoriaeth ar gyfer cerddorion cerddorfaol ac mae nifer o’n haelodau gwreiddiol bellach yn gweithio’n llwyddiannus yn y maes hwnnw.’
Patrick Rimes

Adran archwilio