
Jack Melham
Cynllunydd Cerddoriaeth
Graddiodd Jack o CBCDC gyda gradd BMus Dosbarth Cyntaf mewn Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Cyfansoddi) yn 2011.
Ar ôl graddio, ymunodd y cynllunydd cerddoriaeth â Creative Assembly, datblygwr gemau hynod lewyrchus o Ewrop, a dod yn Brif Gynllunydd Cerddoriaeth ac ennill gwobrau yn amrywio o BAFTAs i Arloesedd Sain y Flwyddyn, o Wobrau Dewis Cynllunio Cerddoriaeth a Datblygwyr Gemau i’r Cynllunio Sain Gorau mewn Gwobrau Cerddoriaeth a Sain, ar hyd y ffordd.
Mae bellach yn gyfrifol am yr holl gerddoriaeth mewn gemau ar draws masnachfraint Total War Creative Assembly, ac yn dod yn ôl i’r Coleg i siarad â myfyrwyr a rhannu ei brofiadau.
Manteisio i’r eithaf ar eich amser yn CBCDC
Ymunodd Jack â’r Coleg gan wybod ei fod eisiau gweithio gyda cherddoriaeth a thechnoleg, a gweithiodd gyda cherddoriaeth a gemau fideo yn ystod ei hyfforddiant i ymarfer y sgiliau hynny a’i baratoi ar gyfer y diwydiant gemau yr oedd eisiau gweithio ynddo. Dewisodd hefyd ganolbwyntio ar gyfansoddi clasurol traddodiadol, a oedd yn cynnwys dysgu paratoi sgôr, gweithio ar recordiadau byw ac ysgrifennu ar gyfer cerddorfa - ac mae’n dal i deimlo mai hyn oedd un o’i gyflawniadau mwyaf tra ei fod yn y Coleg - sgiliau y mae’n dal i’w defnyddio heddiw.
‘Roedd maint y dosbarthiadau’n golygu bod rhywun bob amser ar gael i dreulio amser wyneb yn wyneb â hwy i gael cymorth neu adborth, ac roeddech chi bob amser yn gallu defnyddio caledwedd a meddalwedd y Coleg.
Mae’r ystafell recordio yn gyfleuster o’r radd flaenaf gwych, ac roedd hi’n rhyfeddol bod rhywun yno bob amser i gynorthwyo (ac yn fwy na pharod i wneud hynny!). Roeddwn i wrth fy modd â chyfeillgarwch a chroeso’r Coleg. Roedd Caerdydd yn teimlo fel ail gartref.
Fy nghyngor i fyfyrwyr yw, tra byddwch yn y Coleg treuliwch gymaint o amser ag y gallwch yn ysgrifennu cerddoriaeth ac yn manteisio ar y cyfle i fod yn ddewr mewn lle diogel. Manteisiwch i’r eithaf ar yr amser hwn, a manteisiwch i’r eithaf ar eich cyd-gerddorion, gan na fyddwch byth mewn sefyllfa arall lle bydd rhywun yn chwarae eich cerddoriaeth am ffafr!’Jack Melham