

Llinynnau
Manteisiwch ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, cydweithio ac arbrofi – i gyd mewn amgylchedd dysgu cefnogol sy'n meithrin eich sgiliau proffesiynol a'ch dull dychmygus, i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.
Pam astudio llinynnau yn CBCDC?
- O’ch tymor cyntaf yma byddwch yn perfformio mewn prosiectau unigol, siambr a cherddorfaol. Byddwch yn archwilio gwahanol genres ac arddulliau, gyda chefnogaeth athrawon arbenigol.
- Mae ein cyfadran llinynnau yn cynnwys rhai o’r enwau mwyaf ym maes chwarae unigol, siambr a cherddorfaol. Nid oes unrhyw goleg arall yn cynnig ystod fwy cyffrous o athrawon.
- Ni yw’r unig gonservatoire yn y DU sy’n cynnig cynlluniau lleoliadau llinynnau gyda cherddorfeydd opera a symffoni. Gan weithio mewn partneriaeth â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, rydym yn cynnig cyfleoedd lleoliadau, profiadau ochr yn ochr a mentora gyda blaenwyr a phenaethiaid adrannau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn addysgu ac yn hyfforddi yma hefyd. Bydd ein myfyrwyr yn cael gwaith ychwanegol gyda’r ddwy gerddorfa.
- Byddwch yn dysgu mewn gweithdai bach a dosbarthiadau meistr ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant mewn dull sydd wedi’i bersonoleiddio’n fawr gan eich galluogi i ddatblygu fel cerddor amryddawn a chyflogadwy.
- Byddwch yn cael eich addysgu gan artistiaid gwadd o fri rhyngwladol sydd â gyrfaoedd cyfoes yn perfformio ar y lefel uchaf o bob math o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys blaenwyr cerddorfaol, cerddorion siambr ac unawdwyr, ac yn cwmpasu genres o gerddoriaeth gynnar i jazz.
- Bydd eich ensembles cerddoriaeth siambr yn cael eu mentora gan un o’r nifer o gerddorion siambr ar ein staff, ochr yn ochr â hyfforddiant rheolaidd gan, a chyfle i berfformio gyda, ein dau ensemble preswyl gwych, Pedwarawd Carducci a Phedwarawd Fibonacci.
- Mae ein hystod eang o brosiectau cerddorfaol, gan gynnwys theatr gerddorol, opera, arddangosfeydd actio, yn ogystal â cherddorfa symffoni ac ensembles llinynnol, yn golygu y byddwch yn rhan o brosiectau cerddorfaol bob tymor.
Oriel
Cyfoes, gwybodus a pherthnasol…
Mae’r proffesiwn cerddoriaeth heddiw yn gofyn am brofiad eang a sgiliau addasadwy. Mae ein dull unigryw o addysgu llinynnau yn golygu bod pob myfyriwr yn cael hyfforddiant trylwyr mewn amrywiaeth o arddulliau, yn amrywio o’r baróc i’r cyfoes, jazz a gwerin, electronig ac acwstig. Bydd myfyrwyr yn chwarae mewn ensembles llinynnau ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw, byddant yn cael eu mentora ym maes cerddoriaeth siambr gan rai o ensembles gorau’r DU, a byddant yn perfformio mewn prosiectau theatr gerddorol, opera a symffoni, gan gynnwys gweithio ochr yn ochr â chwaraewyr Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd cyfleoedd i berfformio gyda harpsicordiau a fortepianos gydag arbenigwyr megis Jonathan Manson a Rachel Podger, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau Jazz, Gwerin a Klezmer gydag arbenigwyr blaenllaw. Cynigir cyfle i bob feiolinydd ddysgu chwarae’r fiola a gallant archwilio hyn mewn prosiectau unigol, siambr a cherddorfaol. Mae bod yn ymwybodol o hanes ac yn wybodus yn rhan allweddol o bortffolio chwaraewyr llinynnau heddiw, a chaiff pob myfyriwr y cyfle i chwarae offeryn baróc ac i gael gwersi blasu ar y fiol. I’r rheini sy’n dymuno, gellir wedyn dilyn hyn fel astudiaeth ychwanegol am ddim.
Dan arweiniad perfformiwr, athro ac ymchwilydd sydd â degawdau o brofiad
Mae Dr Simon Jones, Pennaeth Perfformio Llinynnau, yn feiolinydd clodwiw sydd wedi perfformio a recordio’n rhyngwladol fel blaenwr cerddorfaol a cherddor siambr ers 40 mlynedd. Mae hefyd wedi addysgu, darlithio ac arwain prosiectau mewn conservatoires a phrifysgolion ledled y byd ers bron i 30 mlynedd, ac mae’n gymrawd uwch Advance HE ac yn un o’r ychydig bobl i gael Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol am ei waith yn datblygu prosiectau mentora llinynnau.
Mae ei brofiad proffesiynol fel perfformiwr blaenllaw ac fel athro ar lefel conservatoire wedi caniatáu iddo ddatblygu rhaglen gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr ddod yn gerddorion dyfeisgar, addasadwy a chyflogadwy.
Graddiodd Elliot o CBCDC yn 2022 gyda gradd BMus (Anrh).
100
100% Boddhad cyffredinol y cwrs (BMus (Anrh) Llinynnau)
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2025
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy