Neidio i’r prif gynnwys

Y Delyn

Gyda hyfforddiant o’r radd flaenaf ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn ennill yr holl sgiliau sydd arnoch eu hangen i ffynnu fel telynor proffesiynol.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio’r delyn yn CBCDC?

  • Byddwch yn ymuno ag adran fach, agos, gan greu amgylchedd meithringar a chefnogol.
  • Mae ein rhaglen amrywiol a heriol yn eich paratoi ar gyfer bywyd yn y byd proffesiynol cyfoes, gan gwmpasu perfformio fel unawdydd ac fel rhan o gerddorfa, cerddoriaeth siambr a jazz.
  • Dan arweiniad ein pennaeth adran, Kathryn Rees, byddwch yn cael gwersi un i un a dosbarthiadau perfformio wythnosol. Mae’r gwersi hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu techneg a dysgu repertoire eang o weithiau unigol gan gynnwys concerti nodedig a darnau siambr.
  • Mae’r cyfleoedd i berfformio yn cynnwys datganiadau cyhoeddus siambr ac unigol, perfformiadau cerddorfaol ac operatig, theatr gerdd a phrosiectau cydweithredol gydag adrannau eraill.
  • Mae ein tîm nodedig o athrawon rheolaidd yn cynnwys Valerie Aldrich-Smith, sy’n addysgu repertoire cerddorfaol gyda dosbarthiadau gan ein tiwtor gwadd, Katherine Thomas, ynghyd ag Amanda Whiting sy’n cynnal dosbarthiadau trefnu jazz a phop yn rheolaidd.
  • Gallwch hefyd gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’n hartistiaid gwadd, a gwylio datganiadau gan unawdwyr o fri rhyngwladol sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn, fel Isabelle Perrin, Alexander Boldachev, Joel von Lerber, Catrin Finch, Sivan Magen, Sylvain Blassel, Anneleen Lenaerts, Florence Sitruk, Chantal Mathieu a Maria Luisa Rayan.
  • Bydd myfyrwyr sy’n gymwys yn cael cyfle i fynd am glyweliad am le ar gynlluniau lleoliad proffesiynol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion cerddorfaol o’r radd flaenaf.
  • Mae gennym amrywiaeth eang o delynau y gallwch eu defnyddio i ymarfer, perfformio ac ar gyfer asesiadau, gan gynnwys telynau cyngerdd, telyn lled-fawr, telynau Erard Grecian, dwy delyn deires Gymreig a sawl clarsach.

Oriel


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf