

Gitâr
Deffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
Pam astudio gitâr yn CBCDC?
- Mae ein dull personol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi berfformio yn y Coleg ac mewn lleoliadau cyhoeddus allanol, yn ogystal â chymryd rhan mewn perfformiadau cerddoriaeth siambr cydweithredol a gweithio gyda gitaryddion iau yn y gymuned leol, gan eich annog i ddatblygu eich llais artistig unigol a chryf.
- Byddwch yn hyfforddi gyda cherddorion o fri sydd â degawdau o brofiad proffesiynol, gan gynnwys Pennaeth yr Adran, Helen Sanderson, a’n tiwtoriaid gwadd presennol, Zoran Dukić a John Mills.
- Bydd eich astudiaethau unawdol dwys yn cael eu cyfoethogi gan wersi unigol a dosbarthiadau meistr gan artistiaid gwadd nodedig. Ymhlith yr ymwelwyr diweddar mae Gabriel Bianco, Margarita Escarpa a Xuefei Yang, Pavel Steidel, Andrey Lebedev a Jørgen Skogmo.
- Mae cerddoriaeth siambr yn ganolog i’r hyn rydym yn ei wneud a byddwch yn gweithio ar y cyd â gitaryddion a cherddorion eraill mewn grwpiau bach, yn ogystal â sefyllfaoedd cerddoriaeth siambr mwy gyda hyfforddiant ac ymarferion wythnosol. Byddwch hefyd yn perfformio gyda’r adran gyfan yn ein hensemble gitâr sydd ag amserlen brysur o gyngherddau cyhoeddus.
- Elfen unigryw o’n rhaglenni yw’r cyfleoedd sylweddol ac amrywiol ar gyfer cydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg. Mae’r adran gitâr yn meithrin creadigrwydd y tu hwnt i’ch astudiaethau unigol, gan ddatblygu gwaith gydag adrannau eraill, er enghraifft perfformio gyda’r elfen pypedwaith a gyda chyfansoddwyr. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad i chi i weithrediad mewnol disgyblaethau artistig eraill a bod yn rhan o raglen gyhoeddus brysur CBCDC o berfformiadau opera, cyngherddau cerddorfaol, theatr gerddorol a dramâu gwobrwyedig.
- Bydd eich dosbarthiadau dawn gerddorol sy’n canolbwyntio ar y gitâr yn datblygu eich sgiliau trefnu ac yn rhoi cyfleoedd i chi archwilio arddulliau perfformio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, gan gynnwys bas rhifolog, tabl nodiant liwt a thechnegau gitâr estynedig cyfoes.