

Llais
Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant o fyd Llais ac Opera Clasurol i ddatblygu’r sgiliau lleisiol, dramatig, corfforol, cerddorol, ieithyddol, diwylliannol a seicolegol i’ch paratoi i fynegi eich hun ym myd proffesiynol cerddoriaeth a’r byd perfformio cyhoeddus ehangach.
Pam astudio lleisiol yn CBCDC?
- Byddwch yn cael gwersi canu dwys un i un wythnosol gyda chantorion nodedig a hyfforddwyr lleisiol ac opera proffesiynol. Mae hyfforddiant dwys mewn Ieithoedd Ewropeaidd yn cael ei ddysgu drwy repertoire eang o gerddoriaeth leisiol. Bydd gwersi drama a symud wythnosol yn rhoi crefft llwyfan ymarferol i chi fwynhau dyfeisio a pherfformio mewn datganiadau, theatr gerdd ac opera.
- Gallwch fanteisio ar gyfleoedd perfformio drwy Raglen Lleoliadau Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Opera Ieuenctid Cwmni Ifanc - Opera Cenedlaethol Cymru a rhaglen REPCo y cwmni celfyddydol dan arweiniad myfyrwyr.
- Mae ein hyfforddiant lleisiol yn cael ei wella gan ein partneriaethau agos ag artistiaid unigol a rhai o brif gwmnïau opera’r DU ac Ewrop. Gwahoddir Myfyrwyr Lleisiol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i holl ymarferion gwisgoedd y cwmni yn Opera Cenedlaethol Cymru.
- Mae dosbarthiadau meistr a gweithdai yn rhan annatod o bob cwrs. Mae’r ymwelwyr diweddar yn cynnwys Bryn Terfel, Rebecca Evans, Dennis O’Neill, Angelika Kirschlager, Richard Hetherington a Carlo Rizzi.
- Byddwch yn cael dosbarthiadau wythnosol mewn tair iaith Ewropeaidd, Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg gyda hyfforddwyr iaith arbenigol. Bydd y dosbarthiadau hyn yn eich paratoi i ddarllen, ysgrifennu, ynganu a chanu yn yr ieithoedd hyn yn ogystal â Chymraeg, Saesneg ac yn eich iaith eich hun.
- Byddwch yn datblygu sgiliau cydweithio hanfodol drwy brosiectau ensemble fel yr opera sy’n teithio o amgylch ysgolion a chymunedau, Theatr Gerdd, dyfeisio eich golygfeydd opera eich hun a deuawdau llais a phiano. Mae ein cynyrchiadau opera hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi weithio ochr yn ochr â’n hadrannau cynhyrchu a dylunio uchel eu parch.
- Gellir cymryd dosbarthiadau sgiliau perfformio ochr yn ochr â phethau fel sgiliau allweddellau, perfformiad hanesyddol, cyfansoddi a cherddoriaeth gyfoes.
Oriel
Ystod amrywiol o lwybrau gyrfa
Mae hyfforddi fel canwr yn datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.
Mae graddedigion opera CBCDC wedi llwyddo i ennill lleoedd mewn Rhaglenni Artistiaid Ifanc megis y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol, ac wedi perfformio gyda chwmnïau blaenllaw ledled Ewrop a Gogledd America, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, English National Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Scottish Opera, Opera North, Glyndebourne, Metropolitan Opera, Wolf Trap Opera, Opera Memphis ac Opera Brenhinol Sweden.

Opera

Byw yng Nghaerdydd

Joshua Jones
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy





















