Neidio i’r prif gynnwys

Chwythbrennau

Hyfforddwch dan arweiniad cerddorion proffesiynol nodedig o brif gerddorfeydd y DU – a'r cyfan mewn amgylchedd cefnogol sy’n meithrin eich creadigrwydd, eich arloesedd a’ch gallu o ran cydweithredu i’ch helpu i ddod y cerddor gorau y gallwch fod.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio chwythbrennau yn CBCDC?

  • Cewch amrywiaeth eang o brofiad fel unawdydd, cerddor siambr a chwaraewr cerddorfaol drwy wersi offerynnol unigol, a hyfforddiant mewn grwpiau bach, gyda llawer o gyfleoedd i berfformio.
  • Gallwch astudio mwy nag un offeryn chwythbren: os ydych am ehangu eich arbenigedd rydym yn cynnig llwybr aml-offeryn.
  • Cydweithio ac arloesi – rydym yn hyfforddi cerddorion i fod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac yn hyblyg.
  • Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd: yn eich dosbarthiadau perfformio wedi’u teilwra, byddwch yn perfformio i’ch cyfoedion mewn amgylchedd gofalgar a chroesawgar. Ar gyfer aml-offerynwyr, mae dosbarth dyblu ac ensemble yn rhoi’r cyfle i chwarae ar unrhyw un o’ch offerynnau ochr yn ochr â’ch cyfoedion.
  • Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau adrannol rheolaidd gyda chyfeilyddion proffesiynol dan arweiniad y pennaeth perfformio chwythbrennau, y clarinetydd o fri Robert Plane. Bydd y dosbarthiadau hyn yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i chwarae i’ch cyd-fyfyrwyr a chael adborth adeiladol gan eich tiwtor arbenigol a’ch cyd-fyfyrwyr.
  • Mae gennym bartneriaeth agos gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae llawer o’r cerddorion proffesiynol sy’n dysgu yma yn dod o adran chwythbrennau’r ddwy gerddorfa genedlaethol. Mae staff eraill yn cynnwys cyn-aelodau neu aelodau presennol o brif gerddorfeydd o bob rhan o’r DU.
  • Mae perfformio’n rhan enfawr o’ch amser yma: gallwch gymryd rhan gyda’n nifer o gerddorfeydd Coleg, sy’n amrywio o gerddorfa symffoni lawn i gerddorfeydd siambr, cerddoriaeth ysgafn, opera, cyfoes, baróc a chwyth. Mae yna hefyd gôr sacsoffon, gôr ffliwt a dau ensemble siambr chwythbrennau mawr, sy’n chwarae’n rheolaidd mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.
  • Mae rhai o unawdwyr ac athrawon chwythbrennau gorau’r byd yn rhoi dosbarthiadau meistr a datganiadau fel rhan o’n tymor cyngherddau yn ein prif leoliad cyngherddau, Neuadd Dora Stoutzker. Mae ymwelwyr diweddar yn cynnwys clarinetydd Orchestre National de France Carlos Ferreira a Michael Collins, yr oböydd Walter David and Nicholas Daniel a’r arbenigwr baróc Paul Goodwin, prif faswnydd Cerddorfa Symffoni Radio Frankfurt, Theo Plath a Amy Harman, y ffliwtydd gwych o Gymru a phrif ffliwtydd Cerddorfa Frenhinol Concertgebouw Emily Beynon, yn ogystal â’r sacsoffonydd Jess Gillam, Amy Dickson a Huw Wiggin ynghyd â’i dri gyd-chwaraewr o Bedwarawd Sacsoffon Ferio.
  • Gallwch astudio mwy nag un offeryn chwythbren: os ydych am ehangu eich arbenigedd rydym yn cynnig llwybr aml-offeryn.
  • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn. Mae myfyrwyr yn datblygu eu dychymyg a’u sgiliau unigryw, yn ogystal â’u cyflogadwyedd, drwy gydweithio dan arweiniad staff a myfyrwyr ar draws genres ac adrannau – jazz, gwerin, cyfansoddi, theatr gerddorol, opera, cynllunio a drama.

Oriel

Llwybr aml-offeryn: arbenigedd mewn mwy nag un offeryn chwythbren

I fyfyrwyr sydd eisiau ehangu eu harbenigedd rydym yn cynnig llwybr aml-offeryn sy’n cwmpasu popeth o theatr gerddorol i’r clasurol a phop.

O dan arweiniad deinamig yr arbenigwyr aml-offeryn Neil Crossley a Sally MacTaggart, byddwch yn cofleidio pob math o gerddoriaeth ac yn datblygu ehangder o wybodaeth a fydd yn rhoi’r hyder i chi chwarae unrhyw beth a osodir ar y stondin o’ch blaen. Byddwch yn meithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn aml-offerynnwr amryddawn a chyflogadwy yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Ar y llwybr aml-offerynnwr, gallwch hefyd weithio gydag unrhyw un o’n harbenigwyr o'r adran chwythbrennau, ac mae llawer yn dewis cael gwersi gyda thiwtoriaid o'n hadran jazz sy’n ffynnu.

  • Mae ein myfyrwyr chwythbrennau cerddorfaol yn derbyn hyfforddiant cerddorfaol a dosbarthiadau repertoire.
  • Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer gwneud cyrs dwbl. Gall ein myfyrwyr obo a basŵn ddefnyddio ein hystafell gwneud cyrs o’r radd flaenaf, gofod gweithdy sy’n cynnwys yr holl offer a chyfarpar diweddaraf. Rydym yn cynnig gwersi am ddim mewn gwneud cyrs obo a basŵn.

Dan arweiniad perfformiwr o fri sydd ag 20 mlynedd o brofiad cerddorfaol

Mae Robert Plane, pennaeth perfformio chwythbrennau, yn gerddor gwobrwyedig a fu’n brif glarinét Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am 20 mlynedd ac mae bellach yn perfformio’n eang fel clarinetydd Ensemble 360.

Mae ei yrfa hynod amrywiol wedi cwmpasu popeth o berfformio mewn cyngherddau symffoni yn y DU, UDA, De America, Tsieina ac Ewrop i berfformio fel unawdydd concerto ym Mhroms y BBC, a bod y clarinetydd unigol ar y trac sain i ffilm Disney Maleficent a chwarae cyfansoddiadau gan Steve Reich gyda Jonny Greenwood o Radiohead.


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf