Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sally MacTaggart

Rôl y swydd: Aml-offeryn (Chwythbrennau)

Adran: Chwythbrennau

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Mae Sally MacTaggart yn sacsoffonydd, aml-offerynnwr ac addysgwr llwyddiannus.

Arbenigedd

Mae'n perfformio'n helaeth ar y sin theatr yn y DU, gan chwarae sacsoffon, ffliwt, clarinét ac obo yn y West End ac ar deithiau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r cynyrchiadau diweddar yn cynnwys Billy Elliot, Motown, Chitty Chitty Bang Bang, Big Fish, Addams Family, Dusty, Shrek, Elf, Grease, Everybody’s Talking About Jamie, Dream Girls and the Book of Mormon.

Mae Sally yn perfformio gyda rhai o brif gerddorfeydd y wlad gan gynnwys y Royal Opera House, Britten Sinfonia, Opera North, Opera Cenedlaethol Cymru, Manchester Camerata a Chroma Ensemble, gan ymddangos yn rheolaidd mewn lleoliadau fel y Barbican, Royal Festival Hall, Bridgewater Hall a’r BBC Proms.

Mae hi hefyd yn weithgar yn y byd pop a sesiwn, yn recordio themâu ar gyfer teledu’r BBC ac yn ymddangos yn fyw mewn sioeau poblogaidd fel ABBA Voyage a The Rock Orchestra.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Sally yn aelod o ensemble siambr llwyddiannus Kaleidoscope. “Irresistible” oedd disgrifiad The Times o’r ensemble, ac mae wedi ennill gwobrau gan y City Music Foundation, Worshipful Company of Musicians, Sefydliad Hattori, Ymddiriedolaeth Tunnell a Park Lane Group. Mae’r uchafbwyntiau wedi cynnwys perfformiadau yn Wigmore Hall, St Martin-in-the-Fields a Purcell Room, yn ogystal â rhyddhau albwm cyntaf, Oil, a dderbyniodd ganmoliaeth y beirniaid.

Proffiliau staff eraill