

Ymchwil Ôl-raddedig
Dyfarniad:
Doethur mewn Athroniaeth
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC)
Dyddiad dechrau:
20 Medi 2026
Hyd:
n/a
Cod y cwrs:
Amh
Cyflwyniad
Dilynwch PhD yn y celfyddydau mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, dan arweiniad arbenigwyr a fydd yn eich helpu i ddatblygu prosiect ymchwil sydd â chyrhaeddiad diwylliannol a chymdeithasol sylweddol.
Pam PhD yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?
Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr PhD gynnal ymchwil arloesol mewn cyd-destun conservatoire sy’n seiliedig ar ymarfer creadigol sy’n arwain ar lefel fyd-eang a gyda chysylltiadau cryf â’r diwydiant.
Ymchwil sy’n gysylltiedig â chymunedau
Mae ein hamgylchedd ymchwil wedi’i gysylltu’n ddwfn â diwydiannau creadigol a chymunedau amrywiol Cymru. Drwy ein partneriaethau diwydiant â BBC Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Bad Wolf, Theatr Sherman, Theatr Clwyd a Thŷ Cerdd, a sefydliadau cymunedol fel Forget-Me-Not Chorus, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a Race Council Cymru, gallwch ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector proffesiynol wrth ddatblygu prosiectau sy’n cael effaith ddiwylliannol a chymdeithasol sylweddol. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol cryf hwn yn caniatáu i’ch gwaith ymestyn y tu hwnt i’n campws, gan gysylltu ysgolheictod ag ymarfer yn y byd go iawn.
Yr Hen Lyfrgell: canolfan ymchwil newydd
Rydym wedi dechrau cyfnod preswyl o 99 mlynedd yn yr Hen Lyfrgell hanesyddol yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r Hen Lyfrgell eisoes yn safle ar gyfer nifer o brosiectau ymgysylltu â’r gymuned a bydd yn dod yn ganolbwynt deinamig ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol, allblyg yn y celfyddydau yng Nghaerdydd. Bydd hefyd yn angori rhwydwaith ehangach o leoliadau preswyl ledled Cymru, gan alluogi ymchwilwyr i archwilio sut mae’r celfyddydau’n siapio cymunedau ar draws gwahanol ardaloedd, economïau a chyd-destunau diwylliannol.
Bod yn rhan o raglen artistig fywiog
Gallwch hefyd ddod yn rhan o fywyd artistig bywiog Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gyfrannu at raglen perfformiadau cyhoeddus o dros 400 o ddigwyddiadau bob blwyddyn. Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, nid yw ymarfer proffesiynol lefel uchel ar wahân i ymchwil – mae’n ganolog iddo. Mae’r integreiddio hwn yn sicrhau bod gwaith doethuriaeth sy’n seiliedig ar ymarfer yn cadw ei botensial trawsnewidiol llawn drwy arloesedd artistig.
Rhagor o wybodaeth am sut mae ein PhD yn gweithio, beth fyddwch chi’n ei astudio a sut i wneud cais
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am ein rhaglen ddoethurol neu arweiniad ynghylch pwy allai fod yn oruchwyliwr addas ar gyfer eich prosiect, cysylltwch â’n Harweinwyr Rhaglenni PhD, Dr Ella Hawkins neu Dr James Lea.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Goruchwyliaeth PhD

Ymchwil ac arloesi


















