
Emily Beynon
International Visiting Flute Tutor Cymru
E-bost
Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd Cerddoriaeth; Uwch Ddarlithydd Ymchwil ac Arloesedd
Adran: Cerddoriaeth
Anrhydeddau: DMA; MA; BA (Anrh)

Cafodd James Lea radd doethuriaeth mewn perfformiadau piano gan Brifysgol Illinois yn Urbana-Champaign, a gradd meistr mewn cerddoleg gan Brifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill.
Mae wedi perfformio cyngherddau unawdol a siambr ac wedi darlithio ar hyd a lled yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â rhoi nifer o sgyrsiau ‘Discovering Music’ ar gyfer Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth, Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Corbridge, a Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Winchester.
Mae ymchwil James wedi canolbwyntio ar estheteg yn ogystal â cherddoriaeth mewn cymunedau. Law yn llaw â’r ethnogerddolegwr Thomas Turino, golygodd Identity and the Arts in Diaspora Communities (2004). Dyma lyfr sy’n edrych ar y rôl hanfodol y mae artistiaid yn ei chwarae mewn cymdeithas, ac mae wedi adeiladu ar y gwaith hwn i symud i feysydd fel athroniaeth cerddoriaeth, creu lleoedd, ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae gan James brofiad helaeth fel pianydd, ac mae’n defnyddio hynny i lywio ei ymarfer cerddolegol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, yn enwedig Brahms, Mahler a Schoenberg.
Mae James yn darlithio ar rôl y cerddor mewn cymdeithas, estheteg, dadansoddi, a hanes cerddoriaeth. Mae’n arwain ar ymchwil ym myd cerddoriaeth, ac yn gyfrifol am fodiwlau ar gyfer prosiectau ymchwil is-raddedig ac ôl-raddedig. Mae hefyd yn goruchwylio traethodau hir is-raddedig ac ôl-raddedig ar amrywiaeth eang o bynciau.
Mae James yn awyddus i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil doethurol sydd â diddordeb mewn pynciau sy’n ymwneud â cherddoriaeth y 19eg ganrif; athroniaeth cerddoriaeth; creu lleoedd; a cherddoriaeth mewn cymunedau.
Identity and the Arts in Diaspora Communities, cyd-olygwyd â Turino, Harmonie Park Press (2004).