

MFA mewn Cyfarwyddo
Dyfarniad:
MFA mewn Cyfarwyddo
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
20 Medi 2026
Hyd:
Dwy flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
Cyflwyniad
Mae’r cwrs MFA mewn Cyfarwyddo dwy flynedd hwn yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru yn eich paratoi i greu cynyrchiadau llwyfan y dyfodol, gan gynnig cyfuniad digyffelyb o hyfforddiant o’r radd flaenaf, cysylltiadau â’r diwydiant a phrofiad ymarferol.
Gan bontio’r bwlch rhwng hyfforddiant a’r byd proffesiynol, bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi archwilio eich hunaniaeth artistig a llywio drwy heriau ym maes cyfarwyddo theatr ac opera gyfoes.
Pam dewis MFA mewn Cyfarwyddo yn CBCDC?
Hyfforddi yn un o brif gonservatoires y DU
Ystyrir CBCDC yn un o’r lleoedd gorau i astudio drama yn y DU. Gyda’n MFA mewn Cyfarwyddo, byddwch yn cael addysgu rhagorol ochr yn ochr â phrofiad ymarferol mewn amgylchedd hyfforddi proffesiynol, i gyd i’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa fel cyfarwyddwr theatr ac opera.
Addysgu a mentora arbenigol gan ymarferwyr blaenllaw
Byddwch yn cael eich arwain gan dîm o diwtoriaid sy’n gweithredu ar frig eu maes. Bydd eu profiad helaeth a’u mewnwelediad i’r byd proffesiynol yn eich paratoi ar gyfer gofynion byd amlweddog cynhyrchu theatr, gan alinio eich hyfforddiant â safonau cyfredol y diwydiant.
Hyfforddiant wedi’i deilwra mewn amgylchedd diogel a chefnogol
Mae maint bychan ein carfanau - llai na chwech - yn golygu y byddwch yn cael mentoriaeth bersonol a lefel uchel o gefnogaeth gan eich tiwtoriaid, yn ogystal â’r lle a’r rhyddid i wir wthio’ch ffiniau creadigol.
Profiad yn y byd go iawn a chysylltiadau proffesiynol
Mae gennym bartneriaethau cryf gyda rhai o’r cwmnïau theatr a chynhyrchwyr mwyaf nodedig yn y DU, gan gynnwys y Royal Shakespeare Company (RSC), National Theatre, Young Vic, Theatr y Sherman, Theatr Clwyd, Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Opera Cenedlaethol Lloegr, Tŷ Opera Brenhinol a Birmingham Repertory Theatre. Bydd ein partneriaethau gyda’r cwmnïau hyn yn caniatáu i chi adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant ac o bosibl agor cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.
Cydweithio â phobl greadigol eraill
Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr â chymheiriaid o adrannau eraill ar draws y Coleg, gan roi cyfle i chi lunio partneriaethau creadigol a allai bara gydol oes. Mae’r rhyngweithiadau trawsddisgyblaethol hyn hefyd yn cyfoethogi eich hyfforddiant ac yn adlewyrchu natur gydweithredol bydoedd theatr ac opera proffesiynol.
Sesiynau gyda chyfarwyddwyr ac ymarferwyr gwadd nodedig
Byddwch yn mynychu dosbarthiadau meistr rheolaidd gyda chyfarwyddwyr, ymarferwyr a chyfarwyddwyr artistig o fri o rai o brif theatrau’r DU. Byddant yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, gan gyfrannu at eich hyfforddiant yng nghrefft cyfarwyddo a rhoi mewnwelediadau i chi i’r byd proffesiynol.
Hyfforddi ym mhrifddinas Cymru
Byddwch yn astudio yng nghanol Caerdydd, dinas greadigol a fforddiadwy sy’n ymfalchïo mewn cymuned theatr lewyrchus gan roi cyfleoedd i chi gydweithio a rhwydweithio - crefft sy’n hanfodol er mwyn adeiladu gyrfa lawrydd lwyddiannus.
Astudio mewn amgylchedd canolfan gelfyddydau fywiog
Bob blwyddyn bydd artistiaid a grwpiau byd-enwog yn ymweld â’n campws fel rhan o’n rhaglen perfformiadau cyhoeddus rhyngwladol gydnabyddedig ym meysydd opera, theatr gerddorol, cyngherddau cerddorfaol a dramâu gwobrwyedig. Rydym yn eich annog i fynychu cymaint o’r digwyddiadau hyn â phosibl, gyda phob un ar gael i chi am gyfradd myfyrwyr.
Yr hyn y byddwch yn ei astudio – strwythur y cwrs
Mae ein cwrs MFA dwy flynedd, yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn gymysgedd o weithdai ymarferol, gwaith dosbarth, gwaith prosiect a dosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr yn y diwydiant.
Byddwch yn datblygu meistrolaeth o wahanol dechnegau a ddefnyddir mewn theatr ac opera, gan ganolbwyntio ar ddehongli ac ail-ddychmygu testunau a sgoriau.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, byddwch yn meithrin y sgiliau cydweithredol sy’n hanfodol i arwain timau o actorion, cantorion, cynllunwyr, cyfansoddwyr, pobl greadigol a staff technegol yn effeithiol.
Byddwch hefyd yn arddangos eich twf a’ch parodrwydd am y byd proffesiynol trwy adborth parhaus, ymarfer myfyriol, cyflwyniadau viva a thrwy gyfarwyddo perfformiad proffesiynol.
Cyfleoedd cyfarwyddo a chydweithio
- Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs MFA hwn. Yn ogystal â hyfforddi ochr yn ochr â chymheiriaid o adrannau eraill CBCDC, byddwch hefyd yn cyfarwyddo cynhyrchiad theatr proffesiynol gydag actorion, artistiaid creadigol a chriw proffesiynol mewn lleoliad yng Nghaerdydd. Mae hwn yn brofiad unigryw ac amhrisiadwy a fydd yn eich gwneud chi’n wahanol i raddedigion cyrsiau cyfarwyddo eraill.
- Byddwch yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr cynorthwyol neu arsyllwr i amrywiaeth o gyfarwyddwyr llawrydd a staff o’r radd flaenaf sy’n cyfarwyddo yn y Coleg. Mae cyfarwyddwyr gwadd blaenorol wedi cynnwys Blanche McIntyre, Dan Raggett, Adele Thomas, Ned Bennett, Jonathan Munby, Iqbal Khan, Isobel Kettle, Caroline Clegg, Emily Ling Williams, Jade Lewis, ymhlith eraill. Bydd y cyfleoedd hyn yn rhoi mewnwelediad i chi i ystod eang o arddulliau a thechnegau cyfarwyddo, gan ehangu ymhellach eich gwybodaeth ymarferol a’ch rhagolygon proffesiynol.
Ein hadrannau a’n meysydd astudio

Acting department

Musical Theatre department

Stage Management and Technical Theatre department

Cynllunio

Cerddoriaeth

Opera
Cwestiynau Cyffredin
Ydych chi angen cyngor cyn gwneud cais?
Mae ein tîm derbyniadau yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, cyfweliadau neu fywyd yn CBCDC. Anfonwch e-bost at admissions@rwcmd.ac.uk i ddechrau arni.
Llwyddiant graddedigion a llwybrau gyrfa
Mae ein cyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i yrfaoedd disglair ym meysydd ffilm, teledu, theatr ac opera – yn amrywio o hyfforddi llais mewn lleoliadau celfyddydau blaenllaw yn y DU i sefydlu eu cwmnïau theatr eu hunain.
Maent yn gweithio gyda sefydliadau nodedig gan gynnwys Shakespeare’s Globe, National Theatre a’r Royal Shakespeare Company.
Bywyd yn CBCDC

Llety

Cymorth i fyfyrwyr

Byw yng Nghaerdydd
Ydych chi’n barod i ddechrau eich taith conservatoire?
Ymunwch â chymuned o artistiaid angerddol a thalentog yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer gyrfa ym myd teledu a ffilm, neu am lunio dyfodol addysg drama, mae eich llwybr yn dechrau yma.