Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

NEWYDD’24: Gŵyl NEWYDD CBCDC yn dathlu 10 mlynedd o ysgrifennu newydd ac yn symud i Theatr Young Vic yn Llundain

Ym mlwyddyn dathlu pen-blwydd y Coleg yn 75 oed, mae gŵyl ysgrifennu newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu 10 mlynedd o ymrwymiad i feithrin gwaith gwreiddiol a dod â naratifau amrywiol i’r llwyfan gan symud i’w lleoliad ar gyfer 2024, Theatr Young Vic Llundain.

Rhannu neges

Categorïau

Drama, CBCDC, Beth sydd ymlaen

Dyddiad cyhoeddi

Published on 15/05/2024

Ym mlwyddyn dathlu pen-blwydd y Coleg yn 75 oed, mae gŵyl ysgrifennu newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu 10 mlynedd o ymrwymiad i feithrin gwaith gwreiddiol a dod â naratifau amrywiol i’r llwyfan gan symud i’w lleoliad ar gyfer 2024, Theatr Young Vic Llundain.

Bob blwyddyn mae NEWYDD yn comisiynu pedair drama gan awduron sefydledig, gan weithio gyda chyfarwyddwyr a Chwmni Richard Burton y Coleg, sy’n cynnwys myfyrwyr drama blwyddyn olaf, i greu gwaith heriol a llawn ysbrydoliaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth adrodd straeon cyfoes. Mae ‘LLEISIAU NEWYDD’ yn arddangos gwneuthurwyr theatr y dyfodol, gyda gwaith gan fyfyrwyr presennol.


‘Nid oes unrhyw ysgol ddrama arall yn comisiynu ar y raddfa hon nac yn gweithio gyda’r ehangder hwn o dalent ysgrifennu.

Mae’r bartneriaeth unigryw hon gyda thâl llawn yn rhoi cyfle i’r awduron a’r cyfarwyddwyr fentro, gydag amser datblygu priodol, lle, cydweithio â’n hadran cynllunio, ac arbenigedd a chefnogaeth fewnol. Ac wrth gwrs, maent hefyd yn cael gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o actorion, a chast mwy, gyda chefnogaeth y dramodydd Chris Campbell. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i Paines Plough a Theatr y Sherman am y gefnogaeth i’r prosiect hwn dros y blynyddoedd.’
Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC
Freedom March on Selma, Roy Williams

NEWYDD’24: grymuso llif o dalent

Mae NEWYDD’24 yn dod â rhai o dalentau creadigol gorau’r DU ynghyd i gyflwyno dramâu newydd uchelgeisiol sy’n ysgogi’r meddwl: Simon Longman yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr Andrew Whyment, Isley Lynn gyda Debbie Hannan, Paula B. Stanic gyda’r cyfarwyddwr Anastasia Osei-Kuffour, mewn cydweithrediad â Paines Plough, a Rhiannon Boyle a’r cyfarwyddwr Eve Sampson, mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.

Eleni bydd NEWYDD, ar ôl y perfformiadau cyntaf yng Nghaerdydd, yn symud i’r Young Vic yn Llundain, un o’r lleoliadau mwyaf blaengar ac uchel ei fri yn y DU.

‘Mae NEWYDD wedi bod yn beiriant a maes chwarae gwirioneddol arwyddocaol i awduron a chyfarwyddwyr yn ein sector.

Mae’n syniad mor wych o syml. Dros ddegawd mae NEWYDD wedi cynnig man unigryw lle mae gwneuthurwyr theatr gwych yn cwrdd â’r genhedlaeth newydd sy’n graddio, gan gysylltu llif o dalent. Mae yna gorff o ddramâu newydd yn bodoli nawr o ganlyniad.

Mae’n bleser gan The Young Vic bartneru yn y ddegfed flwyddyn a chroesawu’r holl artistiaid theatr hyn, ar bob cam o’u gyrfa, i’n mannau perfformio.’
Lucy DaviesCyfarwyddwr Gweithredol Theatr Young Vic

Dros y degawd diwethaf mae NEWYDD wedi cydweithio â Paines Plough, Theatr y Sherman a’r Royal Court, gan gynhyrchu dros 40 o ddramâu sydd wedi helpu i lunio dyfodol y theatr, gan gynnwys ‘Pomona’ gan Alistair McDowell, ‘Albatross’ gan Isley Lynn, ‘VS9’ gan Hayley Squires, ‘White Sky’ gan Simon Longman, sy’n dychwelyd i NEWYDD eto eleni, ‘Ring Ring’ gan Gary Owen ac ‘All that I Am’ gan Daf James.

‘Rydym mor falch o fod wedi bod yn rhan o daith gŵyl NEWYDD dros y deng mlynedd diwethaf, a chwarae ein rhan i wireddu drama ryfeddol Paula B Stanic Dissonance eleni. Rydym yn coleddu’r cydweithio hwn yn fawr ac, yn yr hinsawdd anodd hon ar gyfer gwaith newydd, mae’r cyfleoedd y mae gŵyl NEWYDD yn eu rhoi i awduron, cyfarwyddwyr a pherfformwyr yn hollbwysig. 

Felly – pen-blwydd hapus NEWYDD! Boed i chi fod gyda ni am lawer mwy o flynyddoedd.’

Charlotte Bennett a Katie Posner, Cyd Gyfarwyddwyr Artistig Paines Plough

Moon Licks, Charlie Josephine

Lleisiau NEWYDD: hyfforddi actorion fel artistiaid creadigol

Yn ogystal â dramodwyr sefydledig, mae ‘LLEISIAU NEWYDD’ a lansiwyd y llynedd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr presennol CBCDC greu, cyfarwyddo a pherfformio eu cynyrchiadau eu hunain – gan ganolbwyntio ar hyfforddi actorion i fod yn greadigol. 

Wedi’u mentora gan un o brif gyfarwyddwyr y DU, Roxana Silbert, bydd y myfyrwyr Stella Elliott-Fortnum, Liam Whiting a Joe Flynn yn dod â’u lleisiau creadigol eu hunain i’r ŵyl, gan berfformio eu dramâu byr ochr yn ochr â gweithiau’r dramodwyr sefydledig.

Mae ‘LLEISIAU NEWYDD’, sydd hyd yma wedi cynhyrchu saith gwaith newydd, yn cynnwys Gaby Foley, a gafodd asiant llenyddol ac sy’n mynd â’i chynhyrchiad ‘Flicker’ i Gaeredin eleni, a Melodie Karczewksi a ymunodd â’r BBC Writers Room Voices 23.

Dod â straeon amrywiol i’r llwyfan...

Mae NEWYDD yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth ar draws ei dimau creadigol, prosiectau a phynciau, gan roi lle i leisiau cwiar a lleiafrifol ar y llwyfan. 

Mae awduron blaenorol sy’n cynnwys Philip Ridley, Charlie Josephine, Roy Williams a Chinonyerem Odimba (y ddau yn Awduron Preswyl CBCDC yn flaenorol), Yasmin Joseph, Penny Skinner a Daf James, a chyfarwyddwyr megis Ned Bennett, Adele Thomas, Milli Bhatia, Jesse Jones, a Titas Daw Halder yn dod â’u safbwyntiau unigryw i’r cynyrchiadau, gan sicrhau tapestri cyfoethog o adrodd straeon cyfoes.

Bydd NEWYDD’24 yn rhoi perfformiadau cyntaf yng Nghaerdydd rhwng 24 Mai a 31 Mai 31 cyn symud i Theatr Young Vic Llundain rhwng 5 Mehefin a 14 Mehefin.

Nodiadau i Olygyddion

NEWYDD ‘24

The Glue

Gan Isley Lynn

Cyfarwyddir gan Debbie Hannon

24, 27, 29 Mai 2pm a 25 a 28 Mai 7pm Theatr Bute

5–8 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Criw o ffrindiau sy’n mwynhau hwyl ond sydd heb fod gyda’i gilydd ers iddynt raddio yw The Glue. Felly, pan fyddant yn dod at ei gilydd o’r diwedd mewn Airbnb yng nghefn gwlad, maent yn awchu i’w fyw fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Ond mae’r criw clos hwn ar fin sylweddoli nad yw’r cwlwm rhyngddynt mor gryf ag y tybient…

Dissonance

Gan Paula B Stanic

Cyfarwyddir gan Anastasia Osei-Kufffour

Mewn cydweithrediad â Paines Plough

24, 27, 29 Mai 7pm a 25 a 28 Mai 2pm Theatr Bute

5–8 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Rêf, protest i ‘ddifa’r mesur cyfiawnder troseddol’ a noson a fydd â chanlyniadau am ddegawdau i ddod. Gan symud rhwng 1994 a 2023 mae’r ddrama’n archwilio pwysigrwydd protest, sut mae pob cenhedlaeth yn cael ei beio gan y nesaf am beidio â gwneud digon, a pham mae angen i ni wrando ar ein gilydd.

Falling, Falling, Falling, Falling

Cyfarwyddir gan Andrew Whyment

Ysgrifennwyd gan Simon Longman

25, 29, 31 Mai 2.15pm a 28 a 30 Mai 7.15pm Theatr Richard Burton

11–14 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Drama am gyfathrebu yw hon. Ac unigrwydd. A’r byd. Anrhefn erchyll llwyr y byd. A’ch lle o fewn hynny. Eich lle yn hynny i gyd. Chi a’r byd. Y byd hwn sy’n dymchwel. Beth yw eich lle yn hynny? Rydych yn meddwl am hynny wrth i chi gael diod gyda rhywun nad ydych chi erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Bydd hynny’n eich angori i rywbeth, yn eich barn chi. Rhywbeth. Unrhyw beth. Canolbwyntio ar bâr arall o lygaid, os gallwch. Mae popeth yn dymchwel o’ch cwmpas. Ond dim ond canolbwyntio ar y llygaid. Dyna’r cyfan y gallwch chi ei wneud, iawn?

Couple Goals

Gan Rhiannon Boyle

Cyfarwyddir gan Eve Sampson

Mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman

25, 29, 31 Mai 7.15pm a 28 a 30 Mai 2.15pm Theatr Richard Burton

11–14 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Dychan sinistr sy’n procio’r meddwl lle mae tri chwpl Cenhedlaeth Z, sy’n ymddangos yn bobl gyffredin, yn cael eu gwthio i fyd swreal y sioe deledu realiti Couple Goals. Wrth i bob elfen o’u bywydau gael eu gwyntyllu, mae’r cystadleuwyr yn cyrraedd pen eu tennyn. Maent yn cael eu bychanu a’u trawmateiddio, ond pwy sydd ar fai - y cystadleuwyr naïf, y cynhyrchwyr ystrywgar neu ni, y gynulleidfa sy’n mwynhau’r gwylio.

Lleisiau NEWYDD

Over Your Dead Body

Gan Joe Flynn

28 Mai 9pm a 30 Mai 4pm Stiwdio Caird

5-7 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Archwiliad brawychus i seicosis cam-drin domestig yw Over Your Dead Body.

Knock Knock

Gan Liam Whiting

29 Mai 9pm a 31 Mai 4pm Stiwdio Caird

11-12 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Doedd 2008 ddim yn flwyddyn wych i fod yn werthwr tai oedd hi?

Trouble in Paradise

Gan Stella Elliott-Fortnum

29 Mai 4pm a 30 Mai 9pm Stiwdio Caird

6-8 Mehefin, Theatr Young Vic – The Maria

Mae Jen yn 21 oed. Merch trin gwallt yw hi o Dde Ddwyrain Llundain ac mae ganddi freuddwydion mawr. Ar ôl creu dilyniant cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ei gwaith, mae’n gwneud cais i fynd ar sioe deledu realiti boblogaidd ar gyfer detio er mwyn cael mwy o sylw i’w phlatfform. Mae ei mam yn poeni y gallai gael ei hecsbloetio; ond mae Jen, gan ei bod yn bendant nad yw teledu realiti yr hyn a arferai fod, yn arwyddo ei chontract ac yn hedfan i Mallorca am haf o serch…wedi’r cyfan, does ganddi hi ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill...wir?

Cwmni Richard Burton

Cwmni Richard Burton yw cwmni cynhyrchu mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sy’n cynnwys actorion, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan ac arbenigwyr technegol blwyddyn olaf. Gan weithio gyda chyfarwyddwyr proffesiynol, mae’r Cwmni’n cynhyrchu tua 15 sioe bob blwyddyn, yn amrywio o ddramâu clasurol i waith cyfoes a blaengar.

Ynglŷn â Theatr Young Vic

Wedi’i sefydlu ym 1970 fel man ar gyfer cynyrchiadau o’r radd flaenaf a gwedd annisgwyl ar ddramâu clasurol sy’n siarad â’n presennol, mae Theatr Young Vic wedi bod yn un o brif theatrau Llundain ers dros hanner can mlynedd.


www.youngvic.org

Negeseuon newyddion eraill