Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

CBCDC yn cyflwyno NEWYDD ’23: grymuso’r genhedlaeth nesaf o actorion

Mae tymor ysgrifennu NEWYDD Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn arddangos ei ymrwymiad i rymuso’r genhedlaeth nesaf o actorion, gan gydweithio ag awduron a chyfarwyddwyr gorau’r DU, a dod â lleisiau newydd a straeon amrywiol i’r llwyfan.

Rhannu neges

Categorïau

Drama

Dyddiad cyhoeddi

Published on 16/03/2023

NEWYDD 23

Mae NEWYDD ’23 yn dwyn ynghyd rhai o ddoniau creadigol gorau’r DU, gyda’r pedair drama wedi’u hysgrifennu gan awduron: Philip Ridley yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr Wiebke Green, a Penelope Skinner gyda Blanche McIntyre. Mae Mufaro Makubika a Titas Halder yn parhau perthynas CBCDC â Paines Plough, sy’n parhau i gefnogi a datblygu lleisiau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Gan weithio gyda Theatr y Sherman, mae CBCDC hefyd wedi comisiynu drama sy’n dwyn ynghyd y Gymraeg a’r Saesneg. Cafodd Mad Margot gan Rebecca Jade Hammond, ac wedi’i chyfarwyddo gan Jac Ifan Moore, ei datblygu gyda’r dramodydd Cymraeg Branwen Davies.

Mewn elfen gyntaf arall i NEWYDD, ac un sy’n canolbwyntio ar hyfforddi actorion i fod yn greadigol, eleni mae rhai o fyfyrwyr blwyddyn olaf yn dod â’u lleisiau eu hunain i’r ŵyl, gan berfformio eu gwaith ochr yn ochr â’r dramodwyr a gomisiynwyd gennym mewn dramâu byr sy’n adlewyrchu pryderon eu cenhedlaeth.

Ers ei lansio yn 2014 mae NEWYDD wedi cynhyrchu 38 o gynyrchiadau heriol, pryfoclyd ac uchelgeisiol. Mae pedair prif ddrama y tymor hwn yn archwilio cwestiynau am bopeth o gariad i dyfu i fyny, teyrngarwch, gwleidyddiaeth, ymrwymiad, rhyfel a heddwch.

'Nid oes unrhyw ysgol ddrama arall yn comisiynu gwaith ar y raddfa hon na gydag awduron a chyfarwyddwyr o’r fath broffil, mae ysgrifennu newydd bob amser wedi bod yn rhan hanfodol o ethos hyfforddiant drama’r Coleg, gan greu actorion sydd â lleisiau unigol cryf, sydd yr un mor gyfforddus i greu eu gwaith eu hunain ag y maent yn gweithio o fewn repertoire clasurol.

Felly, eleni rydym hefyd yn arddangos gwneuthurwyr theatr y dyfodol, gyda’n pedwar llais newydd yn cael eu mentora a’u cefnogi gan y Coleg.'
Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama

Mae ysgrifennu newydd yn bwydo i fywyd diwylliannol y Coleg. Mae Philip Ridley hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr mewn nifer o ddisgyblaethau ar draws y Coleg eleni, a bydd y myfyrwyr yn gweithio’n rheolaidd gyda dramodydd mewnol CBCDC, Chris Campbell, gynt o’r Royal Court, sydd wedi gweithio gyda rhai o ddramodwyr newydd mwyaf cyffrous y DU.

Eleni cynhelir yr ŵyl dros bythefnos, yng Nghaerdydd rhwng 25 Mai a 1 Mehefin yn CBCDC cyn symud i Theatr Yard Llundain am bythefnos arall rhwng 7 ac 16 Mehefin.
Y pedair drama fer newydd a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan actorion yn eu blwyddyn olaf o Gwmni Richard Burton CBCDC: Flicker Gabriella Foley, Y? Mackie Reyes’ Y?, The Taste of Healing, Melodie Karczewski, ac (un)Packing Liam Prince-Donnelly.

Lluniau ar gyfer y wasg yma.

Archebu yn agor ar-lein 24 Mawrth.

www.rwcmd.ac.uk/cy/

www.TheYardTheatre.co.uk

Amseroedd perfformiad NEWYDD' 23

In The Forest of Starlight and Shrapnel

Gan Philip Ridley

27, 31 May 7.15pm – 26, 30 May, 1 Jun 2.15pm

Mae drama newydd Philip Ridley, sy’n agos-atoch ond yn eang, yn ffyrnig ond yn dyner, yn plethu tapestri o straeon syfrdanol, gydag elfennau o gomedi dywyll ar adegau, gan edrych ar yr hyn sy’n digwydd pan fydd dioddefaint rhyfel yn troi’n rhyfeddod heddwch.

Cyfarwyddwr Wiebke Green

Theatr Bute

Lleisiau NEWYDD

Flicker

Gan Gabriella Foley

30 May, 4pm – 1 Jun, 9pm

“Ni allaf ymddiried yn fy mhen fy hun. Mae fel ei fod yn gweithio yn fy erbyn i”.

Mae ymennydd Jo bob amser yn llawn meddyliau ofnadwy, treisgar a gwyrdroëdig. Ar ôl sesiwn ryw di-nod, mae’n teimlo’n anobeithiol ac ar ei hisaf erioed. A all Jo wynebu dilysrwydd yr hyn sydd yn ei phen cyn iddi golli’r rheini y mae’n eu caru?

Gan fynd â chi i fan cwbl wahanol yn y meddwl, mae’r gomedi dywyll hon yn ymchwilio cymhlethdodau meddwl obsesiynol.

Stiwdio Caird

Negeseuon newyddion eraill