Neidio i’r prif gynnwys

Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol

Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) yw'r ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf yn y byd o dan arweiniad pobl anabl. Mae'n hybu rhagoriaeth gerddorol ac yn rhoi llwybr dilyniant i rai o gerddorion ifanc anabl ac nad sy’n anabl mwyaf dawnus y DU.

Ynglŷn â'r gerddorfa

Cerddorfa gynhwysol ac arloesol yw’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) lle mae cerddorion sy’n anabl ac nad ydynt yn anabl gwych rhwng 11-25 oed yn rihyrsio ac yn perfformio gyda’i gilydd.

Mae’n cyflwyno perfformiadau premiere o gerddoriaeth wreiddiol a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan gyfansoddwyr blaengar a threfniannau newydd o ddarnau adnabyddus, wedi’u hailwampio ar gyfer cerddorion ac offerynnau amrywiol y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol. Mae ei sain yn asio offerynnau acwstig, electronig a hygyrch mewn modd arloesol - rhai nad ydynt i’w cael yn draddodiadol mewn cerddorfeydd, megis y gitâr drydan neu’r acordion, ac offerynnau eraill anghyfarwydd fel y LinnStrument, yr Seaboard RISE neu’r ClarionTM, y mae rhai cerddorion yn ei chwarae gyda symudiad y llygad neu’r pen.

Ers ei lansio yn 2018, mae’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol a’i phartneriaid wedi llwyddo i sefydlu rhaglen i gerddorion ifanc anabl ddatblygu eu sgiliau ar lefel uwch, gan gynnig cyfleoedd ymarfer a pherfformio ensemble hygyrch mewn pum rhanbarth. Ochr yn ochr â cherddorion ifanc, mae’r gerddorfa wedi gwthio ffiniau cerddoriaeth glasurol gyfoes, gan ysbrydoli cyfansoddwyr gydag ystod newydd o seiniau offerynnau a dangos y gallai helpu i ehangu cynulleidfaoedd ar gyfer cerddoriaeth glasurol gyfoes drwy berfformiadau hamddenol.

Mae’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn gerddorfa ddeinamig sy’n esblygu bob blwyddyn, gyda phump ar hugain o gerddorion yn dod ynghyd eleni i gyflwyno rhaglen eang o gerddoriaeth glasurol gyfoes. Mae holl gerddorion y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol wedi dod o bum Ensemble NOYO rhanbarthol, a ddarperir trwy bartneriaethau mawr yn Llundain, Bournemouth, Bryste, Birmingham a Chaerdydd.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn falch iawn o fod yn bartneriaid i Ensemble NOYO Caerdydd.

Dewch i’n Rihyrsal Agored 2024 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd y rhain yn digwydd ar:

  • 10 Chwefror 1 - 4pm
  • 2 Mawrth 1 – 4pm

Bydd ceisiadau am glyweliad er mwyn dechrau gydag Ensembles NOYO o fis Medi 2024 ar agor rhwng 23 Chwefror a 24 Mawrth 2024.

I gael rhagor o fanylion am y rihyrsals agored a sut i wneud cais am glyweliad ewch i wefan NOYO.

Dewch i gwrdd â cherddorion Caerdydd Josh, Abraham, Ella, Bethan.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf