Neidio i’r prif gynnwys

Ehangu mynediad i CBCDC

Rydym yn cefnogi darpar fyfyrwyr a sefydliadau addysgol i wneud CBCDC yn fan i bawb astudio ynddo ac ymweld ag ef drwy rymuso a chefnogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Partner Ymgysylltu â Chymunedau

Mae Guy yn gweithio ar ddarparu ystod eang o weithgarwch ymgysylltu, gan weithio ar draws pob agwedd ar y Coleg gyda darpar fyfyrwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau, aelodau cynulleidfaoedd, sefydliadau partner, gwneuthurwyr penderfyniadau a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Astudio

Rydym yn cefnogi darpar fyfyrwyr a sefydliadau addysgol i wneud CBCDC yn fan astudio i bawb, gan gynorthwyo darpar fyfyrwyr o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddod o hyd i'w lle yma yn y Coleg. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cymorth ariannol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio gan gynnwys Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau Israddedig (myfyrwyr y DU yn unig) a Chronfa Galedi.

Sgyrsiau ac ymweliadau ag ysgolion

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gydag ysgolion er mwyn ehangu mynediad i’r Coleg, efallai y byddwn yn gallu ymweld â’ch ysgol i gyflwyno ystod o sgyrsiau a mynychu digwyddiadau yn eich ysgol (yn seiliedig ar rai cyfyngiadau daearyddol). Efallai y byddwn hefyd yn gallu trefnu i chi ymweld â’r Coleg.

I wneud cais am ymweliad campws neu ysgol, llenwch ein ffurflen archebu.

Cynllun tocynnau cymunedol

Mae CBCDC yn lleoliad perfformio gydag amrywiaeth o theatrau. Rydym yn gweithio i gynorthwyo’r cyhoedd i wylio’r ystod lawn o berfformiadau. Mae gennym lawer o berfformiadau, ac mae llawer o'r rhain am ddim ac yn rheolaidd megis AmserJazz. 

Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi pobl a allai wynebu rhwystrau yn dod i’r Coleg. Os ydych yn aelod o un o’r grwpiau isod a’ch bod yn awyddus i weld perfformiad yn RWCMD, llenwch y ffurflen hon neu ffonio ein Partner Ymgysylltiad Cymunedol – Guy O’Donnell ar 029 2034 2854

Pobl o’r ardaloedd isod o Gaerdydd

  • Trelai
  • Caerau
  • Treganna
  • Glanyrafon
  • Grangetown
  • Butetown
  • Adamsdown
  • Sblot
  • Tredelerch
  • Llanrhymni
  • Trowbridge
  • Llanedern
  • Llaneirwg
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid (wedi'u hatgyfeirio drwy aelodaeth sefydliadau partner)
  • Pobl anabl (wedi'u hatgyfeirio drwy aelodaeth sefydliadau partner neu dystiolaeth o statws)
  • Aelodau o Rwydwaith Credyd Amser Tempo
  • Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal 
  • Grwpiau ac unigolion sy'n cael eu cefnogi gan Race Council Cymru a’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru.

Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am ba rwystrau i astudio neu berfformiadau byw sy'n bodoli a sut y gallwn weithio i'w gwaredu. Ceisiwn ddysgu, rhannu a gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau.


Archwilio’r adran