Neidio i’r prif gynnwys

CBCDC yn y Gymuned

Gan gydweithio bob amser, rydym yn rhannu ein syniadau, ein sgiliau a'n gwybodaeth i greu cyfleoedd, ac rydym wedi ymrwymo i ddyfodol lle bydd  ein myfyrwyr yn dod i'r amlwg fel gwneuthurwyr grymus mewn cymdeithas.

Preswylfeydd Woolcott

Drwy gyfres o breswyliadau cerdd, mae ein myfyrwyr a’n graddedigion diweddar yn gweithio ochr yn ochr ag unigolion proffesiynol o fusnesau partner, lleoliadau celfyddydol ac ysgolion i ennill sgiliau a phrofiad ymarferol o berfformio i’r cyhoedd.

Mae hyn yn rhan o gynllun hirdymor i roi ffocws ar weithgarwch cymunedol fel rhan bwysig o brofiad dysgu'r myfyrwyr, gan gyflwyno ymagwedd hyfforddiant cyfannol i raddedigion y dyfodol. Fel rhan o'r ethos hwn, bydd CBCDC yn creu 40 o breswyliadau cerdd ar draws cymunedau yng Nghymru erbyn 2025.

Gwnaethpwyd y rhaglen hon yn bosibl trwy rodd hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Anthony G Woolcott.

Yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd

Mae’r lleoliad celfyddydol poblogaidd hwn yn cynnig gofod ymarfer ar gyfer Pumawd Bute. Mae mentora proffesiynol gan staff a chyfleoedd ar gyfer perfformio masnachol i’r pumawd yn cynnwys cyflwyniadau i sefydliadau celfyddydol a masnachol eraill a chael eu cynnwys yng nghynllun llogi artistiaid y lleoliad. 

Yr Eglwys Norwyaidd

Caffi diwylliannol Pedal Power ym Mharc Bute, Caerdydd

Mae ein myfyrwyr wedi sefydlu caffi diwylliannol ar ddydd Gwener, yn cynnwys perfformiadau wythnosol gan ein hadran gitâr, dan arweiniad Helen Sanderson.

www.cardiffpedalpower.org

Pafiliwn Penarth

Mae graddedigion diweddar CBCDC yn cydweithio â Phafiliwn Penarth, Gŵyl Penarth ac ysgolion lleol i gynnig rhaglen gynyddol o ymgysylltiad cyhoeddus arloesol i'r gymuned leol. 


Archwilio’r adran