Neidio i’r prif gynnwys

Ein gwaith gydag ysgolion a chymunedau

Mae cysylltu â chymunedau yn rhan ganolog o ethos CBCDC. Gan fanteisio ar ddoniau a chreadigrwydd ein myfyrwyr, rydym yn datblygu gwaith newydd gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol.

Yn ein gwaith, rydym yn ceisio dathlu’r ffyrdd rydym yn wahanol a chreu amgylchedd lle gall pawb ffynnu. Rydym yn cydnabod bod diffyg gwelededd a mynediad i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ac mae cymaint o ffyrdd i gymryd rhan yn ein perfformiadau a chael profiad o CBCDC.

Cysylltu cymunedau


Ein gweledigaeth yw newid bywydau, a thrawsnewid a chysylltu cymunedau drwy’r celfyddydau. Mae'n gyrru ein dull strategol, a dyma sy'n ein hysbrydoli i wneud y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Wrth i ni symud ymlaen, rydym am rannu ein lle arbennig hyd yn oed yn ehangach a meithrin cysylltiadau cryfach gyda phob math o bobl. Credwn y bydd ymgysylltu'n ddyfnach â chymunedau amrywiol yn ein cyfoethogi fwyfwy, yn sicrhau ein bod yn hygyrch, yn berthnasol ac yn destun mwynhad, ac yn bwydo i safonau rhagoriaeth ym mhob rhan o'r sefydliad.

Community groups visit to RWCMD

Fel rhan o'n hymrwymiad i weithio gyda grwpiau cymunedol i ehangu mynediad i'r Coleg, efallai y byddwn yn gallu trefnu ymweliadau â'r Coleg.

I ofyn am daith dywys campws cymunedol, llenwch ein ffurflen archebu.

Ar gyfer ymholiadau ysgolion ac addysg, ewch i'n tudalen ysgolion a cholegau.


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf