Neidio i’r prif gynnwys

Perfformio hanesyddol

Mae dull hanesyddol wybodus ar gyfer gwahanol arddulliau cerddorol yn hanfodol ar gyfer pob cerddor sy’n ymuno â’r proffesiwn heddiw. Mae myfyrwyr CBCDC yn elwa gan hyfforddiant a mentora sy’n hyrwyddo ac yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o arddulliau perfformio o gyfnod y Dadeni i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy raglen astudio gynhwysfawr o’r radd flaenaf.

Pam astudio yn CBCDC?

  • Gall holl fyfyrwyr cerddoriaeth CBCDC ymgysylltu â Pherfformio Hanesyddol, naill ai fel modiwl craidd neu fel arbenigedd.
  • Gellir dadlau bod gan CBCDC fwy o fyfyrwyr yn ymwneud â Pherfformio Hanesyddol nag unrhyw gonservatoire arall yn y DU, gan fwydo i ddatganiadau unawdol, dosbarthiadau academaidd a pherfformiadau ensemble.
  • Mae ein tiwtoriaid Perfformio Hanesyddol yn cynnwys rhai o berfformwyr mwyaf dylanwadol ac uchel eu parch y byd ac yn cynnwys Anneke Scott, Jeremy West, Ross Brown, Katy Bircher, Jonathan Manson a Rachel Podger.
  • Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar gydweithio ym mhob agwedd ar weithgarwch ac mae wedi’i strwythuro i gynnig lefel uchel o gefnogaeth i chi fel dysgwr unigol ac ymarferydd y dyfodol.
  • Mae opsiynau prosiect Perfformio Hanesyddol arbenigol yn eich galluogi i gynnal ymchwil manylach i feysydd dethol Cerddoleg a Pherfformio.

Pam astudio perfformio hanesyddol heddiw?

Mae ein dull unigryw ar gyfer perfformio hanesyddol, dan arweiniad arbenigol Dr Simon Jones, yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant mewn amrywiaeth o arddulliau hanesyddol, gan weithio gydag offerynnau cyfnod sy’n cynnwys ein casgliad allweddellau hanesyddol, gyda sawl harpsicord a fortepiano o wahanol gyfnodau. Mae bod yn hanesyddol ymwybodol a gwybodus yn rhan allweddol o bortffolio sgiliau cerddor yr unfed ganrif ar hugain, gan wella amlochredd a chyflogadwyedd ein graddedigion.

Oriel

Dan arweiniad Simon Jones, Pennaeth Llinynnau a Pherfformio Hanesyddol

Mae Dr Simon Jones, pennaeth yr adrannau Llinynnau a Pherfformio Hanesyddol, yn feiolinydd o fri sydd wedi perfformio a recordio’n rhyngwladol fel blaenwr cerddorfaol a cherddor siambr. Mae hefyd yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant sydd wedi addysgu’n offerynnol ac fel darlithydd prifysgol.

Mae ei brofiad proffesiynol cyfunol, sy’n ymestyn dros 30 mlynedd, wedi caniatáu iddo lunio rhaglen sy’n rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr ddod yn gerddorion dyfeisgar, hyblyg a chyflogadwy.


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf