Réjouissance Ensemble
Ensemble Perfformio Hanesyddol Preswyl
Rôl y swydd: Pennaeth Perfformiad Llinynnol a Pherfformiad Hanesyddol
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: BA (Bryste) PhD (Caerefrog)
Astudiodd Simon Jones ym mhrifysgolion Bryste, Rhydychen a Chaerefrog, gan ennill ei PhD mewn Ymarfer Perfformiad Llinynnol yn 2003. Fe’i penodwyd yn arweinydd y Gerddorfa Baroc Ewropeaidd a threuliodd ran gyntaf ei yrfa yn teithio ac yn recordio gyda’r rhan fwyaf o brif grwpiau offerynnau cyfnod y DU. Roedd yn perfformio’n rheolaidd gyda Syr John Eliot Gardiner, Syr Roger Norrington a Christopher Hogwood, ymysg eraill, ac ar un adeg roedd ganddo dair prif sedd ar yr un pryd.
Ym 1997, fe’i penodwyd yn arweinydd The King’s Consort, a bu’n mwynhau amserlen brysur iawn yn teithio a recordio. Cyfunodd ei waith perfformio gydag addysgu, aelodaeth o gyngor ESTA ac arholi ar gyfer diploma ABRSM yn ogystal â bod yn ymgynghorydd llinynnol ar gyfer y recordiadau maes llafur wedi’u graddio 2016.
Yn 2004, symudodd Simon i Gymru i ymgymryd â swydd Pennaeth Perfformiad Hanesyddol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyfunodd y rôl hon â pherfformio a recordio, gan gynnwys ensembles blaenllaw y DU, fel The Dunedin Consort, The Sixteen ac Arcangelo, sydd wedi ennill gwobrau.
Yn 2012, ymgymerodd Simon â rôl Pennaeth Perfformiad Llinynnol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan ddatblygu’r cwrs i gynnig cyfuniad unigryw o brofiad o ran arddull a chyd-destun, cyfleoedd perfformio gyda’r gorau a lefelau uchel o fentora a chyswllt ag athrawon sy’n enwog yn rhyngwladol.
Mae Simon bellach yn cyfuno’r rôl hon â phrosiectau perfformio gyda nifer o grwpiau yn y DU a’i ensemble ei hun Réjouissance. Mae’n athro ac yn arholwr gwadd mewn conservatoires eraill yn y DU a thramor ac mae’n dal i fod yn arholwr allanol mewn sefydliadau eraill.
Mae’n parhau i ymchwilio i arferion perfformio baroc ac mae ar fin cyhoeddi casgliad o gerddoriaeth nad oedd yn hysbys o’r blaen o’r 17eg ganrif.
Mae Simon yn Uwch Gymrawd Addysg Uwch ac yn 2016 roedd yn falch o gael Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, a oedd yn golygu mai ef oedd yr unig Bennaeth Llinynnau yn y DU i gael ei anrhydeddu fel hyn.