Neidio i’r prif gynnwys

Llais

Cewch weithio gyda pherfformwyr a hyfforddwyr llais blaenllaw yn y diwydiant er mwyn cael bod y canwr gorau y gallwch fod, tra’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y byd proffesiynol.

Pam astudio’r llais yn CBCDC?

  • Byddwch yn gweithio’n agos mewn gwersi un-i-un gyda chantorion a hyfforddwyr o fri sy’n cynnig dewis eang o arddulliau addysgu.
  • Byddwch yn datblygu eich sgiliau hollbwysig eraill drwy astudio iaith, cerddoriaeth, symud, actio a chrefft llwyfan.
  • Gallwch fanteisio ar gyfleoedd perfformio drwy raglen lleoliadau gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Opera Ieuenctid y WNO a rhaglen REPCo, y cwmni celfyddydau dan arweiniad myfyrwyr.
  • Mae’r WNO ar garreg ein drws a gwahoddir myfyrwyr i fynychu holl rihyrsals gwisg y cwmni.
  • Caiff ein hyfforddiant llais ei lywio gan y safonau proffesiynol mwyaf cyfoes, diolch i’n partneriaethau agos ag artistiaid unigol a rhai o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw’r DU megis Scottish Opera, Opera North a’r Tŷ Opera Brenhinol.
  • Mae dosbarthiadau meistr a gweithdai yn rhan annatod o bob cwrs. Ymhlith yr ymwelwyr diweddar a rheolaidd mae Susan Bullock, Joyce El-Khoury, Elizabeth Llewellyn, Gwyn Hughes-Jones, Malcolm Martineau, Carlo Rizzi a Simon Lepper.
  • Gallwch fanteisio ar y llu o gyfleoedd i gydweithio ar draws adrannau’r Coleg, megis allweddellau, arwain corawl, perfformio hanesyddol, cyfansoddi a cherddoriaeth gyfoes. Mae ein cynyrchiadau opera hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi weithio ochr yn ochr â'n hadrannau cynhyrchu a chynllunio clodwiw.
  • Gan weithio gyda’n Pennaeth Symud Struan Leslie, ymhlith eraill, byddwch yn cael sesiynau symud i gantorion, gan ganolbwyntio ar yr elfen gorfforol a sgiliau perfformio.
  • Fel canwr, mae datblygu rhuglder mewn iaith yn arbennig o bwysig a chewch ddosbarthiadau wythnosol ar ramadeg a strwythur pob un o’r ieithoedd canu: Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg.
  • Byddwch yn datblygu sgiliau cydweithio hollbwysig drwy brosiectau ensemble megis opera i blant, theatr gerddorol, dyfeisio eich golygfeydd opera eich hun a gwaith deuawd llais a phiano.

Oriel

Ystod amrywiol o lwybrau gyrfa

Mae hyfforddi fel canwr yn datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at ystod amrywiol o lwybrau gyrfa.

Gellir gweld graddedigion opera CBCDC ar hyn o bryd gydag English National Opera (ENO), Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Scottish Opera, Opera North, Glyndebourne, yn ogystal â thai opera ledled Ewrop a Gogledd America.

Mae rhai wedi parhau â’u hastudiaethau yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol.

Dan arweiniad y perfformiwr a’r hyfforddwr Mary King

Mae gyrfa Mary wedi cwmpasu ystod eang o rolau, gan gynnwys perfformiwr, athrawes, hyfforddwr, darlledwr ac awdur. Mae Mary yn mezzo soprano poblogaidd a hynod brofiadol ac wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw a nifer o gerddorfeydd ledled y byd.

Mae hi wedi gwneud nodwedd arbennig o’r repertoire clasurol cyfoes.

Mae profiad Mary o arwain sefydliadau wedi canolbwyntio ar hyfforddi cantorion ifanc. Mae hi wedi dysgu ar gwrs Knack Opera Cenedlaethol Lloegr, Voicelab Canolfan Southbank ac Academi Glyndebourne. Mae hi’r un mor gartrefol ym maes Theatr Gerddorol ac yn addysgu’r ddisgyblaeth hon yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Arts Ed ac mae’n ymgynghorydd llais ar gyfer sawl sioe yn y West End.

Mae hi hefyd yn ddarlledwr rheolaidd ar radio a theledu a chyd-ysgrifennodd The Singer’s Handbook, a gyhoeddwyd gan Faber.


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf