Neidio i’r prif gynnwys

Cynllunio

Cyfle i ennill y sgiliau technegol, creadigol a phroffesiynol i lansio eich gyrfa, gyda’n cyrsiau’n cynnig hyfforddiant ymarferol a nifer o gyfleoedd ar leoliad.

    Pam astudio cynllunio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?

    • Mae ein cyrsiau’n cael eu harwain gan ymarferwyr profiadol – sy’n arbenigwyr yn eu maes – felly gallwch fod yn hyderus bod eich hyfforddiant yn bodloni safonau ac arferion gorau cyfredol y diwydiant.
    • Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ymarferol, ymdrochol, waeth beth rydych chi’n dewis ei astudio.
    • Byddwch yn cael eich hyfforddi yn y lleoliadau yn ein canolfan gelfyddydau ddeinamig. Byddwch yn gweithio ar berfformiadau cyhoeddus sy’n ceisio adlewyrchu’r amgylchedd gwaith proffesiynol, neu’n gwneud yn siŵr bod eich gwaith yn cael ei arddangos mewn amgylchedd o'r fath. Mae’r perfformiadau hyn yn amrywio o operâu a chyngherddau i gynyrchiadau drama a theatr gerdd.
    • P’un ai ydych chi’n creu, yn cynllunio neu’n rheoli, byddwch chi’n ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb mewn rolau uwch ar gynyrchiadau yn y Coleg wrth i chi symud ymlaen drwy eich cwrs – gyda mentoriaid wrth eich ochr yn cynnig cymorth.
    • Mae ein dosbarthiadau bach yn golygu y gallwn roi llawer iawn o sylw i chi a’ch mentora’n unigol. Byddwn yn eich trin fel gweithiwr proffesiynol o’r wythnos gyntaf.
    • Byddwch yn gweithio yn rhai o’r cyfleusterau gorau a mwyaf amrywiol yn y wlad. Mae ein meddalwedd a’n hoffer diweddaraf yn adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y diwydiant, felly gallwch fod yn hyderus yn eich gallu wrth gamu i rolau proffesiynol ar ôl graddio.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o'r hyn rydym yn ei wneud yma. Cynhelir eich hyfforddiant mewn canolfan gelfyddydau o’r radd flaenaf, sy’n cynnig cyfleoedd unigryw i weithio gyda myfyrwyr a staff o gyrsiau eraill – gallai fod yn hyfforddiant mewn gweithdy gwaith coed neu gyflwyno prosiect cyffrous fel rhan o’ch lleoliad. Mae’r cydweithio hwn â phobl o wahanol arbenigeddau yn rhoi teimlad i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant mewn gwirionedd.
    • Yn ogystal â chydweithio â myfyrwyr ar ein cyrsiau eraill, cewch gyfle i weithio ochr yn ochr ag artistiaid a chwmnïau sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn. Yn ogystal â chael profiad gwerthfawr o weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae’r rhyngweithio hyn yn eich helpu i feithrin eich rhwydwaith o gysylltiadau – sy’n hanfodol wrth geisio sefydlu gyrfa ar ôl graddio.
    • Rydym yn arwain y gad o ran hyfforddi cynllunwyr ar gyfer perfformiadau, gyda’n graddedigion yn mynd ymlaen i ennill Golden Globes, Gwobrau Tony a BAFTAs.
    • Mae ein graddedigion hefyd yn cael eu hanrhydeddu’n rheolaidd yng Ngwobrau mawreddog Linbury am Gynllunio Llwyfan ac yn cael cyfle i weithio gyda rhai o brif gwmnïau theatr, opera a dawns y wlad ac arddangos yn y National Theatre.

    Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

    Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

    Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

    Blwyddyn mynediad:
    Rhanbarth:

    Archwilio’r adran hon

    Beth sydd ymlaen

    Newyddion diweddaraf