Neidio i’r prif gynnwys

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Mae ein hyfforddiant eang yn cyfuno sgiliau technegol craidd, cynllunio sain a goleuo, fideo, adeiladu ac ati a’r ystod lawn o sgiliau rheoli llwyfan, tra’n canolbwyntio ar eich dewis o arbenigedd.

Ydych chi eisiau arbenigo mewn theatr, digwyddiadau byw a chynhyrchu ffilm a theledu?

Mae’r hyfforddiant wedi’i deilwra i’ch diddordebau unigol a’ch nodau gyrfa drwy’r gwaith cynhyrchu, tra eich bod yn meithrin profiad ymarferol eang mewn ystod o rolau technegol a chynhyrchu. Rydym yn eich trin fel gweithiwr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf. Byddwch yn gweithio fel aelod o’n tîm rheoli llwyfan preswyl i gynhyrchu cynyrchiadau o safon broffesiynol yn y Coleg ac ar leoliadau allanol.

Pam astudio yn CBCDC?  

  • Rydym yn cynnig hyfforddiant trochol, ymarferol ac ‘addas ar gyfer y dyfodol’. Mae ein cwrs yn ymdrin ag ystod eang o sgiliau ymarferol ym maes rheoli llwyfan. Byddwch yn hyfforddi ym mhob agwedd sydd ei hangen ar ymarferydd theatr, megis goleuo, sain, fideo ac adeiladu cyn arbenigo yn eich maes dewisol.
  • Mae’r sgiliau y byddwch yn eu dysgu yn eich galluogi i raddio’n ‘barod ar gyfer diwydiant’ ac mae ein hanes o ran cyflogaeth yn 100%.
  • Mae’r Coleg yn ganolfan gelfyddydau ffyniannus a byddwch yn cael profiad ymarferol mewn amrywiaeth o rolau cynhyrchu gan weithio gefn llwyfan mewn amgylcheddau theatr a pherfformio proffesiynol megis cyngherddau cerddoriaeth, cynyrchiadau opera, arddangosfeydd, digwyddiadau mewnol a gwyliau, gan gynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.
  • Mae ein cwmni theatr mewnol, Cwmni Richard Burton, yn cynhyrchu tua 24 o gynyrchiadau’r flwyddyn gan gynnig cyfleoedd cydweithredol traws-gyrsiol i’n myfyrwyr.
  • Gan greu, cynllunio a gweithio ar gynyrchiadau byw, gyda mentoriaid yn eich cefnogi, byddwch yn ysgwyddo lefelau cynyddol o gyfrifoldeb mewn rolau uwch ar draws Cwmni Richard Burton.
  • Mae gennym rai o’r cyfleusterau a’r offer gorau a mwyaf amrywiol yn y wlad, sy’n eich galluogi i gael profiad o weithio gyda gwahanol elfennau technegol ar waith cefn llwyfan, gan gynnwys systemau hedfan a llwyfannu â llaw, sy’n defnyddio gwrthbwysau a rhai sy’n gwbl awtomataidd.
  • Cewch gyfleoedd i dreulio amser ar leoliad yn y diwydiant gyda chwmnïau uchel eu bri gan gael cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr yn ogystal â phrofiad penodol yn y diwydiant.
  • Mae ein cymhareb uchel o staff i fyfyrwyr yn golygu y byddwch yn cael llawer o hyfforddiant a mentora un-i-un pwrpasol.
  • Darperir hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, er enghraifft, y graddedigion Dominic Bilkey, Pennaeth Sain a Llun y National Theatre, neu’r cynllunydd goleuo rhyngwladol Tim Routledge sydd wedi gweithio gyda phawb o Beyonce i Stormzy, yn ogystal â’r Gemau Olympaidd yn Llundain.

Lleoliadau yn y diwydiant

O’r 10 cynhyrchiad Coleg y byddwch yn gweithio arnynt dros y tair blynedd, gellir treulio hyd at bedwar ohonynt gyda chwmnïau allanol. Mae lleoliadau blaenorol wedi cynnwys sefydliadau cenedlaethol allweddol fel y National Theatre, Royal Shakespeare Company, Shakespeare’s Globe, Neg Earth, White Light, PRG, Delta Audio, Two Trucks Production a gwyliau mawr fel Glastonbury a Download. Mae ein myfyrwyr hefyd wedi gweithio’n rhyngwladol, yn America ac ar draws Ewrop.

Mae gan Gymru sector diwydiant creadigol ffyniannus a chyfleoedd ar gyfer rheoli llwyfan mewn cwmnïau lleol mawr eu bri megis Bad Wolf, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, Bay Productions, Wild Creations, Stage Sound Services, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Sherman ymhlith eraill.

‘Wrth i’r byd a’r diwydiant newid, felly hefyd y mae ein haddysgu. Bu newid cyson mewn meysydd megis cynhyrchu digidol a fideo, awtomeiddio, ac yn CBCDC rydym yn addasu ein cwrs yn barhaus i weddu i’r newidiadau hyn, gan gydbwyso sgiliau hen a newydd. Mae ein graddedigion, sydd allan yn gweithio yn y diwydiant, ar flaen y gad o ran y newidiadau hyn ac maent yn dychwelyd atom i rannu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol â’r myfyrwyr.'
Ian EvansPennaeth Rheoli Llwyfan, CBCDC

Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf