Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Mary King

Rôl y swydd: Pennaeth Llais

Adran: Llais

Bywgraffiad

Roedd gyrfa canu unawdol Mary yn cwmpasu ystod eang o repertoire operatig a chyngerdd gydag arbenigedd yn y canon clasurol cyfoes. Fel athrawes, hyfforddwr, darlledwr ac awdur mae ei phrofiad proffesiynol yn cwmpasu sawl genre o gerddoriaeth.

Gan ganolbwyntio ar hyfforddi cantorion, cynlluniodd gwrs The Knack Opera Cenedlaethol Lloegr a fu’n rhedeg am 12 mlynedd; bu’n gweithio ym meysydd drama, theatr gerddorol, cynnal dosbarthiadau clasurol a chyfoes i’r WAPPA yn Awstralia, ac erbyn hyn mae’n Ymgynghorydd Talent Lleisiol yn Glyndebourne lle mae wedi dyfeisio cynllun hyfforddi i gantorion â photensial sydd wedi wynebu rhwystrau i greu llwybr i gerddoriaeth glasurol.

Creodd, a bu’n gyfarwyddwr, Voicelab Canolfan Southbank ac arweiniodd hyn at brosiectau’n amrywio o gorws yn meistroli Offeren Bernstein ar gyfer perfformiadau yn Neuadd yr Ŵyl Frenhinol dan arweiniad Marin Alsop, i ddigwyddiadau canu cymunedol gyda miloedd ar lannau’r Tafwys, yn ogystal â chastio proffesiynol (Carmen Jones, Sweeney Todd, Lost in the Stars) a chydweithrediadau ag Elbow; Billy Bragg; Paco Pena a Bobby McFerrin.

Yr un mor gartrefol ym maes Theatr Gerddorol, mae wedi addysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Arts Ed, yn ogystal â bod yn hyfforddwr llais ar lawer o sioeau’r West End.

Caiff ei hadnabod fel darlledwraig reolaidd ar y radio a’r teledu, ac fel pyndit cyson ar BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau hyfforddi ar gyfer Boosey and Hawkes a hefyd wedi cyd-ysgrifennu The Singer’s Handbook, a gyhoeddwyd gan Faber.

Arbenigedd

Mae Mary wedi bod yn ymwneud â gwaith allgymorth ac addysgu ers amser hir, gan weithio gyda’r holl brif gwmnïau yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â chynnal rhaglenni hyfforddiant yn y wlad yma a thramor. Yn ystod cyswllt hir Mary â’r English National Opera, lluniodd a chynhaliodd gwrs sgiliau perfformio hynod lwyddiannus, 'The Knack', am 11 mlynedd, a rhwng 2004 a 2006 roedd hefyd yn Aelod Cyswllt Artistig i’r cwmni.

Rhwng 2007 a 2013 creodd ac arweiniodd ‘Voicelab’ i Ganolfan Southbank, rôl a oedd yn cwmpasu popeth o gastio prosiectau proffesiynol i greu a hyfforddu amryw gorau ac ensembles bach. Ers 2013, mae’n addysgu’n rheolaidd yn Western Australian Academy of Performing Arts yn Perth. Ar hyn o bryd, mae’n addysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol ar y cwrs Theatr Gerddorol (lle mae hefyd yn cynnal rhaglen flynyddol: Vocal Workout Weekend), a’r Arts Educational School (ArtsEd). Yn 2017/18, gweithiodd Mary fel Hyfforddwr Llais i’r Actors Touring Company ar eu cynhyrchiad llwyddiannus o The Suppliant Women gan Aeschyus yn y Young Vic yn Llundain ac roedd yn Gyfarwyddwr Llais ar berfformiadau o MASS gan Leonard Bernstein’ yn Nghanolfan Southbank yn Llundain.

Mae Mary yn Ymgynghorydd Talent Llais yn Glyndebourne lle mae wedi bod yn hyfforddi plant ar gyfer perfformiadau GFO o Carmen, The Cunning Little Vixen, The Damnation of Faust, a La Boheme ;ac mae’n gyfarwyddwr Glyndebourne Academy – rhaglen ddwyflynyddol i gantorion talentog a wynebodd rwystrau ar eu llwybr i fod yn gantorion proffesiynol y dyfodol. Mae’n gweithio fel hyfforddwr i nifer o sioeau’r West End gan gynnwys Oklahoma! (Young Vic); My Fair Lady (Coliseum) a Little Night Music ac Into the Woods ar gyfer Opera North. Mae hefyd yn cynnig gwersi llais 1-1 i gantorion proffesiynol.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Mary yn gynyddol adnabyddus drwy ei gwaith ar deledu a radio. Roedd yn un o’r sbardunau y tu ôl i Operatunity ar Channel 4 a enillodd wobrau, ac ar Musicality, hefyd ar Channel 4. Ymddangosodd ar deledu’r BBC fel dadansoddwr arbenigol ar gystadlaethau Canwr y Byd Caerdydd ers 2003 ac mae’n gyflwynydd rheolaidd ar BBC Radio 3.

Mae galw am ei gwaith hefyd fel awdur. Yn 2007 cyhoeddwyd The Singer's Handbook (Faber), a ysgrifennwyd ar y cyd ag Anthony Legge. Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd cyfres o gasgliadau repertoire llais dethol gyda nodiadau hyfforddi, The Boosey Voice Coach (Boosey & Hawkes).

Mae Mary yn Aelod Cyswllt er Anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Cymrawd er Anrhydedd y Rose Bruford College a Chymrawd y Northern College of Music.

Proffiliau staff eraill