Neidio i’r prif gynnwys

Actio: Cyrsiau

Hyfforddwch gyda rhai o’r actorion, cyfarwyddwyr ac awduron gorau sy’n gweithio heddiw.

BA (Anrh) Actio

Yn y cwrs hyfforddiant ymarferol dwys hwn sy’n seiliedig ar berfformio, byddwch yn ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y maes theatr, sgrin a’r cyfryngau digidol.
Rhagor o wybodaeth

MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

Cewch lansio eich gyrfa actio drwy hyfforddiant dwys dan arweiniad arbenigwyr a hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio a rihyrsal mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MFA mewn Cyfarwyddo

Astudiwch gyfarwyddo yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru. Mae ein MFA mewn Cyfarwyddo yn cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant trylwyr a phrofiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn cyfarwyddo.
Rhagor o wybodaeth

MFA mewn Cyfarwyddo Symud

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr blaenllaw i ddysgu sut i addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo symud a choreograffu ar gyfer theatr ar draws ystod amrywiol o gyd-destunau a disgyblaethau perfformio.
Rhagor o wybodaeth

MFA mewn Hyfforddi Llais, Lleferydd a Thestun

Byddwch yn meithrin y sgiliau i ddod yn hyfforddwr llais a thafodiaith sy’n barod ar gyfer y diwydiant a fydd yn gallu gweithio ar draws meysydd theatr, teledu, ffilm a chyfryngau digidol, ac mewn sefydliadau hyfforddi actorion.
Rhagor o wybodaeth

MFA mewn Ysgrifennu Drama

Gyda’n cwrs MFA dwy flynedd, byddwch yn trochi eich hun yng ngwybodaeth a chrefft ysgrifennu ar gyfer drama, gan ddatblygu gwaith ar gyfer y theatr, y sgrin, sain a’r cyfryngau digidol.
Rhagor o wybodaeth

Archwilio’r adran hon