Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

Ein hamgylchedd croesawgar, bywiog a deinamig yw'r lle perffaith i archwilio celfyddyd drama, boed yn actor ar lwyfan neu'n gweithio y tu ôl i'r llenni.

Pam astudio drama yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm o weithwyr proffesiynol o bob rhan o’r diwydiant sydd â degawdau o brofiad.
  • Mae hyn yn golygu y bydd eich cwrs yn gyfredol ag arferion gwirioneddol y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol y funud y byddwch yn graddio.
  • Bydd eich hyfforddiant trylwyr yn cynnwys nifer o gyfleoedd i ennill profiad ymarferol – ni waeth beth rydych chi’n dewis arbenigo ynddo.
  • Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn prosiectau a chynyrchiadau amrywiol a gynhelir yma yn y Coleg ac mewn sefydliadau fel y BBC, y Royal Shakespeare Company, y National Theatre, y National Theatre of Wales, Theatr Sherman a’r Royal Court.
  • Mae ein partneriaethau cryf â’r diwydiant, sy’n cynnwys llawer o’r prif sefydliadau celfyddydol a chwmnïau yn y DU, yn sail i’n hyfforddiant ac yn eich cysylltu â darpar gyflogwyr.
  • Mae dysgu ar y cyd wedi’i wreiddio ym mhob un o’n cyrsiau. Gyda’ch hyfforddiant mewn canolfan gelf o’r radd flaenaf, byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda myfyrwyr a staff o bob rhan o’r Coleg. Nid yn unig y mae’n adlewyrchu’r hyn y byddwch yn ei brofi yn y byd proffesiynol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ddechrau adeiladu partneriaethau parhaol hefyd.
  • Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dod yn aelod o gwmni cynhyrchu mewnol y Coleg, sef Cwmni Richard Burton. Gan weithio gyda chyfarwyddwyr proffesiynol, mae’r cwmni’n cynhyrchu tua 15 sioe bob blwyddyn, o ddramâu clasurol i ddramâu cyfoes arloesol.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio gyda chwmnïau ac artistiaid sy’n ymweld â’n campws bob blwyddyn. Mae rhyngweithio fel hyn yn eich helpu i greu rhwydwaith o gysylltiadau, yn ogystal â chynnig profiad gwerthfawr sy’n deillio o weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant mewn amgylchedd creadigol.
  • Mae maint ein dosbarthiadau yn fach er mwyn i’n tiwtoriaid allu canolbwyntio ar eich anghenion penodol chi – maen nhw hefyd yn helpu i feithrin ysbryd o gydweithio a chreadigrwydd rhyngoch chi a’ch cyd-fyfyrwyr.
  • Bydd ymarferwyr rhyngwladol enwog yn ymweld â’r Coleg yn rheolaidd, a byddwch yn cael cyfleoedd i fynychu eu dosbarthiadau a’u sgyrsiau. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i chi drafod ag arbenigwyr y diwydiant a chael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith a’r cyfleoedd yn eich maes ac o’i gwmpas.
  • Rydyn ni’n cynnig rhai o’r cyfleusterau a’r offer gorau a mwyaf amrywiol yn y wlad, gan eich galluogi i gael profiad o weithio gyda gwahanol agweddau technegol ar waith y tu ôl i’r llwyfan, gan gynnwys gwaith llaw, gwrthbwysau a systemau hedfan a llwyfannu sy’n gwbl awtomatig.
  • Mae’n golygu mwy na meistroli’r sgiliau technegol a chreadigol i ffynnu yn eich maes astudio penodol chi. Drwy gydol eich cwrs, byddwch hefyd yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy a chyflogadwyedd, a all eich helpu i gynnal gyrfa mewn unrhyw leoliad creadigol proffesiynol.
  • Mae ein graddedigion diweddar wedi ymddangos mewn cynyrchiadau yn y West End, gan gynnwys Heathers, Jersey Boys, Cabaret, Phantom of the Opera a Les Misérables, yn ogystal â theithio gyda chynyrchiadau ar raddfa lai yn y DU a thu hwnt.
  • Ar y sgrin, mae ein graddedigion wedi ymddangos yn Killing Eve, Black Mafia Family, It's a Sin, The Split, Fleabag, Anne Boleyn, Gavin and Stacey, Versailles a Blue Lights.
  • Ar y llwyfan, mae ein graddedigion wedi ymddangos yn Richard III (y Royal Shakespeare Company), Julie (y National Theatre), A Streetcar Named Desire (Almeida/y West End), Harry Potter and the Cursed Child (y West End/Broadway), A Doll’s House (y Lyric Hammersmith) ac I, Joan (Theatr y Globe).

100

100% Boddhad cyffredinol y cwrs

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2023

Meithrin sgiliau ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd 

Mae’r diwydiant teledu yn ffynnu’n fawr yng Nghaerdydd a gall myfyrwyr greu gyrfa o bwys iddynt eu hunain yn syth o’r Coleg. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd yn syth o’u profiad gwaith Coleg gyda chwmni i gyflogaeth. Roedd gan His Dark Materials bron i 30 o raddedigion CBCDC yn gweithio ar y cynyrchiad. Mae Discovery of Witches, The Pact a’r gyfres newydd o Doctor Who i gyd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth: