Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

  • Dyfarniad:

    MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    19 Medi 2027

  • Hyd:

    13 mis llawn amser

  • Cod y cwrs:

    704F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dewch i ddatblygu eich gyrfa actio gyda hyfforddiant dwys dan arweiniad arbenigwyr, cael hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio ac ymarfer mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs yn pontio’r bwlch rhwng gradd mewn pynciau eraill – neu brofiad actio blaenorol – a’r safon a ddisgwylir gan y diwydiannau theatr, teledu, ffilm a chyfryngau wedi’u recordio.

Byddwch yn datblygu’r rhinweddau greddfol, deallusol ac empathig sy’n eich gyrru i berfformio ar y lefelau uchaf o arferion artistig.

Mae hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio ac ymarfer gydag ymarferwyr profiadol wrth galon y rhaglen hon, ac mae’n cael ei gefnogi gan gyfleoedd rheolaidd i weithio gydag arbenigwyr a chyfarwyddwyr sy’n ymweld.

Bydd gennych gyfuniad o ddulliau actio craidd a dosbarthiadau sgiliau corfforol a lleisiol, ac yn rhoi’r rhain ar waith mewn prosiectau ar berfformiad naturiolaidd ac uwch o ran testun, sain a sgrin.

Byddwch yn perfformio mewn cynhyrchiad cyhoeddus yng Nghaerdydd ac yn Llundain fel rhan o dymor NEWYDD y Coleg, gan ymuno â’n hactorion eraill, rheolwyr llwyfan a myfyrwyr theatr dechnegol a dylunio fel aelod o Gwmni Richard Burton. A thrwy eich ymchwil, eich cynhyrchiad a’ch perfformiad eich hun mewn prosiect creadigol, byddwch yn magu’r hyder i greu gwaith gwreiddiol.

Mae dosbarthiadau ar sicrhau a chynnal gwaith gyda chyfarwyddwyr ac asiantau castio proffesiynol yn arwain at ymuno â’n hactorion eraill mewn arddangosiadau i gynulleidfaoedd gwadd o asiantau, cyfarwyddwyr castio a darpar gyflogwyr yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich datblygiad yn cael ei arwain gan dîm addysgu sy’n cynnwys ymarferwyr arbenigol mewnol ac sy’n ymweld, a chyfarwyddwyr proffesiynol. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd mentora a rhwydweithio yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
  • Mae’r cwrs yn defnyddio nifer o ddylanwadau a methodolegau actio i arwain eich gwaith, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus am y gwahanol ddulliau o actio sy’n defnyddio ac yn ymestyn eich cryfderau personol.
  • Byddwch yn ymuno â’n hactorion trydedd flwyddyn ac yn cydweithio â myfyrwyr eraill o bob rhan o ddrama a cherddoriaeth fel rhan o Gwmni Richard Burton. Yma, rydych chi’n profi gofynion trylwyr amgylchedd y theatr broffesiynol mewn cynhyrchiad llawn. Rydych chi’n cael eich mentora a’ch cefnogi i gychwyn, cynhyrchu a pherfformio darn gwreiddiol o waith – sgiliau amhrisiadwy ar gyfer datblygu gyrfa bortffolio gynaliadwy ym myd actio.
  • Byddwch yn perfformio mewn arddangosiadau actorion yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain, lle bydd cyflogwyr yn y diwydiant, cyfarwyddwyr castio ac asiantiaid yn bresennol. Ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill, byddant hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr a gweithdai, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gynnal clyweliadau.
  • Bydd gennych weithdai sgiliau actio craidd sy’n archwilio strategaethau wrth weithio gyda thestunau, adeiladu cymeriad, byrfyfyrio a pherfformio testunau clasurol.
  • Mewn dosbarthiadau sgiliau lleisiol, rydych chi’n canolbwyntio ar dechnegau corfforol effeithiol ar gyfer perfformio, yn ogystal â ffisioleg lleisiol, tafodieithoedd ac acenion, a chanu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi sy’n edrych ar dechnegau a gofynion ar gyfer actio ar y sgrin.
  • Mae gweithdai ymarferol sy’n eich cyfeirio at y diwydiannau theatr, teledu a drama, gan gynnwys gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o’r diwydiannau cynhyrchu a chastio i fireinio eich techneg cyfweld a chlyweld a darparu cyfleoedd i rwydweithio.

Tysteb

Roedd CBCDC yn ysgol ddelfrydol ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw, ond hefyd i mi fel unigolyn. Mae wedi rhoi’r grym i mi fod yn actor cyflawn. Mae’n swydd mor amlweddog a’r hyn a wna’r Coleg mor wych yw eich trochi chi’n llwyr yn y cyfan. Mae cymaint o arbenigeddau yno, sy’n amrywio o radio i’r sgrin a phopeth yn y canol.
Callum Scott HowellsActor

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf