Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio – Actio a Theatr Gerddorol

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sut i ymgeisio

I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £34.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 ac mae Cod y Cwrs i'w weld ar dudalen y cwrs.

Wrth wneud cais drwy UCAS Conservatoires, bydd yn ofynnol i chi ddewis prif arbenigedd/disgyblaeth. Edrychwch ar y tabl i weld beth mae angen i chi ei ddewis.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am glyweliadau ar ein tudalennau clyweliad.

Cwrs

BA Actio

Prif arbenigedd/disgyblaeth

Perfformio drama

Chod y cwrs

200F

Cwrs

MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

Prif arbenigedd/disgyblaeth

Perfformio drama

Chod y cwrs

704F

Cwrs

BA Theatr Gerddorol

Prif arbenigedd/disgyblaeth

Theatr Gerddorol

Chod y cwrs

RW02

Cwrs

MA Theatr Gerddorol

Prif arbenigedd/disgyblaeth

Theatr Gerddorol

Chod y cwrs

713F

  • Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich canolwr ‘ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich athro/darlithydd drama, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich galluoedd perfformio ar actio.
  • Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.
  • Mae yna ffi clyweliad o £35 ar gyfer y gost o drefnu a darparu clyweliadau.
  • Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.
Myfyrwyr yn chwarae pianos mewn cyngerdd.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Cwrs

BA Actio

Ceisiadau’n agor

9 Gorffennaf 2026

Ceisiadau’n cau

13 Ionawr 2027

Cwrs

MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

Ceisiadau’n agor

9 Gorffennaf 2026

Ceisiadau’n cau

25 Mawrth 2027

Cwrs

BA Theatr Gerddorol

Ceisiadau’n agor

9 Gorffennaf 2026

Ceisiadau’n cau

13 Ionawr 2027

Cwrs

MA Theatr Gerddorol

Ceisiadau’n agor

9 Gorffennaf 2026

Ceisiadau’n cau

25 Mawrth 2027

Cyrsiau