

BMus (Anrh) Jazz
Dyfarniad:
BMus (Anrh) Jazz
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
19 Medi 2027
Hyd:
4 blynedd llawn amser
Cod y cwrs:
810F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Mae perfformio, cyfansoddi a chydweithredu wrth galon ein hyfforddiant jazz yn conservatoire cenedlaethol Cymru, gan roi’r sgiliau a’r profiad i chi adeiladu gyrfa mewn cerddoriaeth.
Wedi’i ysbrydoli gan anghenion newidiol y perfformiwr a’r cyfansoddwr jazz, mae’r cwrs BMus (Anrh) Jazz pedair blynedd hwn yn ymdrin â’r prif ddisgyblaethau perfformio sy’n gysylltiedig â’r genre: lleisiol, offerynnol a chyfansoddi. Byddwch yn astudio ochr yn ochr â rhai o gerddorion jazz gorau’r DU fel rhan o’ch dosbarthiadau grŵp a hyfforddiant cerddorol un-i-un personol.
Cyflwyniad i'r adran Jazz gyda Phennaeth yr Adran, Andrew Bain
Pam dewis y cwrs BMus Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?
Hyfforddwch yn un o conservatoires cerddoriaeth gorau’r DU
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cael ei ystyried yn un o’r conservatoires cerddoriaeth gorau yn y DU. O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant i ddatblygu eich techneg, eich hyder a’ch llais artistig. Byddwch yn archwilio gwahanol arddulliau ac arbenigeddau, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa amrywiol a chynaliadwy mewn cerddoriaeth.
Hyfforddiant cerddorol arbenigol gan weithwyr proffesiynol arweiniol y diwydiant
Mae eich hyfforddiant cerddorol yn cynnwys gwersi un-i-un a grŵp wythnosol yn eich prif faes astudio, a elwir yn ‘brif astudiaeth’ i chi. Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys rhai o brif artistiaid jazz y DU - pob un ohonynt yn gyfansoddwyr jazz gweithredol ac yn offerynwyr neu’n lleiswyr uchel eu parch. Maent yn cynnig addysg unigol o’r radd flaenaf i chi, ond hefyd hyfforddiant ensemble, addysgu mewn grŵp, mentora a chyfleoedd rhwydweithio.
Cyfleoedd perfformio o’r diwrnod cyntaf
O’ch tymor cyntaf, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o berfformiadau, o gyngherddau ac ensembles i ddosbarthiadau meistr a phrosiectau trawsddisgyblaethol. Mae’r profiadau hyn yn rhan annatod o’ch datblygiad, gan feithrin eich hyder a’ch hyblygrwydd fel perfformiwr.
Cysylltiadau â diwydiant a phrofiad o’r byd go iawn
Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydyn ni wedi meithrin partneriaethau cryf â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, gan roi mynediad i chi at leoliadau sy’n cysylltu eich hyfforddiant â’r byd go iawn. Mae’r cyfleoedd hyn gyda rhai o’r enwau mwyaf uchel eu parch yn y busnes yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer gyrfa barhaol a llwyddiannus yn niwydiant cerddoriaeth heddiw.
Cymuned conservatoire groesawgar a chydweithredol
Gallwch gydweithredu â myfyrwyr o bob cwr o'r Coleg, o actio i ddylunio, gan feithrin y sgiliau a'r hyder i weithio'n greadigol ar draws gwahanol ffurfiau celf.
Hyfforddwch mewn amgylchedd bywiog yng nghanolfan y celfyddydau
Mae artistiaid rhyngwladol enwog yn ymweld â’n campws bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen perfformiadau cyhoeddus. Gallwch brofi’r digwyddiadau hyn am ddim neu am bris gostyngol, yn ogystal â chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr, sydd ar gyfer ein myfyrwyr yn unig.
Gweithgareddau i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol
Er mwyn eich helpu i ennill sgiliau cyflogadwyedd a datblygu gyrfa ar ôl i chi raddio, rydym yn cynnig gweithgareddau datblygiad proffesiynol, sgyrsiau ac arweiniad arbenigol bob tymor. Byddwch hefyd yn cael eich annog i drefnu eich perfformiadau byw eich hun, gan ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd hanfodol ochr yn ochr â’ch hyfforddiant cerddoriaeth.
Byw ym mhrifddinas Cymru
Mae Caerdydd yn lle cyfeillgar, fforddiadwy a chreadigol i fyw. Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o sîn gerddoriaeth a chelfyddydau lewyrchus, gyda lleoliadau mawr ar garreg eich drws a chyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau, allgymorth cymunedol a digwyddiadau proffesiynol.
Beth fyddwch yn ei astudio - strwythur y cwrs BMus Jazz
Mae ein cwrs BMus Jazz yn cyfuno hyfforddiant conservatoire â modiwlau arbenigol wedi’u cynllunio ar gyfer cerddorion sydd am adeiladu gyrfa broffesiynol mewn jazz.
Er mwyn eich helpu i ddatblygu’n gerddor hyderus, cyflawn a chyflogadwy, mae eich prif astudiaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o hyfforddiant a phrofiadau. Ochr yn ochr â’ch gwersi un-i-un, byddwch yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau perfformio, ymarferion ensemble, dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, sesiynau stiwdio, darlithoedd, seminarau, prosiectau grŵp, yn ogystal â chael cyfle i ennill profiad gwaith.
Gan astudio mewn grwpiau bach, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o hanes ac athroniaeth jazz, ac yn archwilio ei repertoire ar draws ystod eang o genres ac is-genres. Byddwch hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o gyfryngau newydd a thueddiadau sy’n esblygu yn y diwydiant.
Cewch arbenigo yn unrhyw rai o’r offerynnau canlynol fel rhan o’ch cwrs:
- Bas
- Drymiau
- Ffliwt
- Gitâr
- Piano
- Sacsoffon
- Trombôn
- Utgorn
- Llais
Cysylltu â’r cyhoedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r tu allan iddo
Mae chwarae mewn ensemble yn rhan allweddol o’ch hyfforddiant. Byddwch yn perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa mewn gigiau a digwyddiadau’r Coleg - neu fel rhan o sîn jazz lewyrchus Caerdydd.
Archwiliwch ddewis cynhwysol o gerddoriaeth
Yn ein dosbarthiadau cerddoriaeth a chymdeithas, byddwch yn darganfod sut mae cerddoriaeth wedi cael ei defnyddio i hybu newid cymdeithasol, gan archwilio’r ffactorau allweddol y tu ôl i repertoires amrywiol. Drwy edrych ar amrywiaeth fwy cynhwysol o gerddoriaeth, byddwch yn ymchwilio i weithiau gan artistiaid LGBTIQA+, yn ogystal â chyfansoddwyr ac artistiaid Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol.
Asesu ac adborth rheolaidd i’ch helpu i dyfu fel cerddor
I gefnogi eich datblygiad fel cerddor, mae’r cwrs yn cynnwys asesiad rheolaidd. Mae bod yn gyfforddus gydag adborth parhaus a hunanfyfyrio yn allweddol i’ch twf fel artist.
Mae’r holl elfennau hyn, ynghyd â rhwydweithio a lleoliadau gyda rhai o’r sefydliadau mwyaf uchel eu parch yn y busnes, yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa barhaol, lwyddiannus yn niwydiant cerddoriaeth heddiw.
Yn ystod eich gradd, bydd angen i chi gwblhau 180 o gredydau ar lefel 4, 180 ar lefel 5 a 120 ar lefel 6 i raddio gyda gradd BMus (Anrh) Cerddoriaeth, wedi’i dilysu gan Brifysgol De Cymru.
Geirdaon
Cyfleoedd i berfformio a chydweithredu
- Mae chwarae mewn ensemble yn rhan hanfodol o’ch hyfforddiant. Byddwch yn perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfaoedd mewn amrywiaeth o gigiau a gynhelir yn ein cyfleusterau sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker, ein prif leoliad cyngherddau. P’un a ydych chi’n ymuno â chydweithrediadau llai, yn perfformio mewn band mawr, yn canu yn y côr jazz, neu’n gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr mewn cynyrchiadau drama neu theatr gerdd, mae digon o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau.
- Bob wythnos, gallwch hefyd gymryd rhan mewn cynllunio, cyflwyno a pherfformio ar gyfer y cyhoedd yn ein clwb jazz dan arweiniad myfyrwyr, Amser Jazz Time. Mae hyn nid yn unig yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau entrepreneuraidd ond hefyd yn rhoi llwyfan i chi rannu eich gwaith gyda chynulleidfaoedd newydd.
- Y tu allan i’r Coleg, cewch gyfle i weithio gyda chymunedau lleol, mor amrywiol â pherfformio yn ystod o glybiau jazz Caerdydd neu’n hwyluso gweithdai mewn ysgolion lleol.
- Mae eich asesiad perfformiad diwedd blwyddyn yn brofiad proffesiynol go iawn o berfformio yn ein gŵyl jazz flynyddol, sy’n cynnig cyfle i chi berfformio ar lwyfan proffesiynol.
- Drwy gydol eich astudiaethau, cewch gyfle i gymryd dosbarthiadau meistr gydag artistiaid o fri rhyngwladol sy’n ymweld â’n campws. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig hyfforddiant cerddorol personol, cipolwg ar y busnes a chyfle i ehangu eich rhwydwaith - sy’n hanfodol i lwyddo fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiant cerddoriaeth.
- Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau allanol drwy gydol eu hamser yma. Mae digwyddiadau mawr – fel BBC Canwr y Byd Caerdydd a Dylunio Llwyfan y Byd – hefyd wedi'u cynnal ar ein campws.
Ein hadrannau a’n meysydd astudio

Adran bres

Adran gyfansoddi

Adran arwain

Adran gitâr

Adran delynau

Adran jazz

Adran biano

Adran offerynnau taro

Adran linynnau

Adran leisiol

Adran chwythbrennau
Cwestiynau cyffredin
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Mae ein tîm mynediadau yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, clyweliadau neu fywyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. E-bostiwch admissions@rwcmd.ac.uk i ddechrau arni.
Llwyddiant graddedigion a llwybrau gyrfa
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiant cerddoriaeth - o berfformiadau cerddorfaol ac opera i gyfansoddi ar gyfer ffilm, teledu a gemau, neu arwain prosiectau ac ensembles addysg cerddoriaeth. Maent yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, BBC NOW a’r Tŷ Opera Brenhinol.

Hannah Grace

Elliot Kempton

Jack Melham
Bywyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Llety

Cymorth i fyfyrwyr

Byw yng Nghaerdydd
Ydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith conservatoire?
Ymunwch â chymuned o gerddorion angerddol a thalentog yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol neu’n awyddus i lunio dyfodol addysg cerddoriaeth, mae eich llwybr yn dechrau yma.
Gwybod mwy am yr adran
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy
Allow Unistats content?
Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
















