

Paratoi ar gyfer eich clyweliad cerddoriaeth
Paratowch ar gyfer eich clyweliad cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chyngor gan ein staff a'n myfyrwyr. Gwyliwch ein fideos i gael arweiniad ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Eich clyweliad wyneb yn wyneb | Offerynnol
Mae taith pob cerddor yn wahanol, ac nid oes un llwybr penodol i hyfforddiant mewn conservatoire. Clywch gan ein staff a’n myfyrwyr am brofiad y clyweliad yn CBCDC, beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod, a sut rydym yn eich cefnogi i ddod â’ch unigoliaeth, eich llais cerddorol a’ch potensial i’r ystafell.
Eich clyweliad wyneb yn wyneb | Llais
Yn ystyried clyweliad ar gyfer llais yn CBCDC? Clywch gan ein myfyrwyr presennol am eu profiadau, o oresgyn nerfau a magu hyder i ddarganfod nad oes angen bod wedi trefnu popeth ymlaen llaw cyn cyrraedd. Darganfyddwch sut rydym yn dod i’ch adnabod fel canwr ac yn eich cefnogi i ddatblygu.
Clyweliad ar-lein | Offerynnol a lleisiol
Gall clyweliad o bell gynnig ffordd wahanol o rannu eich cerddoriaeth a chymryd y cam nesaf yn eich hyfforddiant. Clywch gan fyfyrwyr CBCDC am eu profiadau o glyweliadau fideo, sut y gwnaeth y broses eu helpu i deimlo’n gyfforddus, a pham mai rhannu eich dawn gerddorol a’ch potensial sy’n bwysig, yn hytrach na chyflwyno perfformiad perffaith.

Canllawiau clyweliad

Clyweliadau Cerddoriaeth CBCDC yng Ngogledd Cymru

Cerddoriaeth
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy















