Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

CBCDC yn cyhoeddi mai Andrew Bain fydd ei Bennaeth Jazz newydd

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi penodi’r cerddor ac addysgwr Andrew Bain yn Bennaeth Jazz newydd, a fydd yn cymryd yr awenau gan Paula Gardiner sy’n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Rhannu neges

Categorïau

Jazz

Dyddiad cyhoeddi

Published on 19/06/2023

19/06/2023

Yn un o brif berfformwyr ac addysgwyr y DU, mae Andrew ar hyn o bryd yn Ddirprwy Bennaeth ac Uwch Ddarlithydd Jazz yng Nghonservatoire Brenhinol Birmingham. Yn CBCDC bydd yn arwain adran gynhwysol, llawn ysbrydoliaeth a chlodfawr sy’n anfon ei graddedigion jazz i bedwar ban byd.

‘Mae rhaglenni cerddoriaeth CBCDC yn cyfuno crefft offerynnol neu leisiol unigol â chelfyddyd gydweithredol a chysylltiadau â’r gymdeithas ehangach. Mae pob un o’r tair elfen yn sylfaenol i faes jazz ac mae Andrew yn dod ag ymrwymiad angerddol i’r dull cyfannol hwn ar gyfer hyfforddiant.'

‘Mae ei gefndir fel chwaraewr, cydweithredwr, arweinydd ensembles, addysgwr angerddol, ac fel academydd yn ei wneud yn berson delfrydol i gymryd yr awenau gan Paula, ac rwy’n llawn cyffro ynglŷn â dyfodol jazz yn CBCDC o dan ei arweinyddiaeth.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC,

'Mae Jazz yn y Coleg wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n uchel ei barch fel stabl sy’n cynhyrchu artistiaid hynod fedrus, chwilfrydig gyda hunaniaeth unigol gref ac yn lleoliad jazz poblogaidd yng Nghaerdydd, yn fwyaf nodedig efallai ar gyfer y digwyddiadau AmserJazzTime a gynhelir yn wythnosol bob nos Wener.

Dymunwn bob hapusrwydd i Paula yn ei hymddeoliad a diolchwn yn fawr iawn iddi am bopeth y mae wedi’i wneud drwy ei harweinyddiaeth llawn ysbrydoliaeth.’

'Rwy’n falch iawn o fod yn Bennaeth Jazz CBCDC.

Ar ôl stiwardiaeth ardderchog Paula Gardiner ers 2001, edrychaf ymlaen at ddod â’m harbenigedd i’r adran jazz a’r gymuned ehangach i barhau ac ymestyn enw da’r cwrs jazz am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.

Alla i ddim aros i ddechrau arni.’
Andrew BainBennaeth Jazz newydd

Cynhelir AmserJazzTime olaf Paula ar 30 Mehefin yng Nghyntedd Carne y Coleg. Mae'r digwyddiad am ddim hwn yn gyfle i ffarwelio a diolch i Paula.

Penodiadau Pennaeth Llais a Chyfarwyddwr Cerdd Ysgol Opera David Seligman

Ar ôl gweithio yn y swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, bydd Mary King nawr yn arwain adran Astudiaethau Llais CBCDC a bydd James Southall yn dod yn Gyfarwyddwr Cerdd Ysgol Opera David Seligman o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Nodiadau i olygyddion

Mae Andrew Bain, cerddor, addysgwr ac ymchwilydd, yn un o’r perfformwyr ac addysgwyr mwyaf blaenllaw yn Ewrop ac mae wedi perfformio gydag enwogion fel Wynton Marsalis, Natalie Cole, Kenny Wheeler, Randy Brecker, John Taylor, Band Mawr NDR, Dave Liebman a Bob Mintzer, a hefyd wedi treulio cyfnod preswyl yn Efrog Newydd.

Mae wedi perfformio ar draws y DU, Ewrop ac America, gan gynnwys perfformio ac arwain ym Mhroms y BBC. Mae ganddo gysylltiadau proffesiynol â sefydliadau ledled y byd, ar ôl bod yn artist preswyl yn Pontificia Universidad Javeriana, Bogota, Colombia (2019) a Phrifysgol Stavanger, Norwy. Roedd yn diwtor Jazz gwadd i'r Conservatorio di Musica Vincenzo Bellini di Palermo, Sisili (2016 a 2017), a Phrifysgol Cerddoriaeth a'r Celfyddydau Perfformio, Graz, Awstria (2019). Mae Andrew hefyd yn gyfarwyddwr Summer Jazz Camp Scotland gyda’r cwrs cyntaf yn cael ei gynnal ym mis Awst.

Mae gan Andrew nifer o’i brosiectau ei hun ar waith ar hyn o bryd: Piano Player (2015) gyda Mike Walker, Gwilym Simcock, Iain Dixon, a Steve Watts; Embodied Hope (Whirlwind Recordings 2017) gyda George Colligan, Jon Irabagon, a Michael Janisch; a'i brosiect diweddaraf – (no)boundaries (Whirlwind Recordings 2020) – archwiliad byrfyfyr rhydd yn cynnwys Peter Evans, Alex Bonney a John O'Gallagher a ryddhawyd ym mis Mawrth 2020. Mae ei brosiect diweddaraf, Mosvatnet, yn cynnwys Angelica Sanchez, John O'Gallagher, Tori Freestone a Per Zanussi. Byddant yn rhyddhau albwm yn 2024.

Bu’n Ddirprwy Bennaeth Jazz yng Nghonservatoire Brenhinol Birmingham ac mae’n aelod o bwyllgor llywio’r Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Ymchwil Artistig mewn Jazz.

Negeseuon newyddion eraill