Neidio i’r prif gynnwys

Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol: Cyrsiau

Mae ein hyfforddiant eang yn cyfuno sgiliau technegol craidd, cynllunio sain a goleuo, fideo, adeiladu ac ati a’r ystod lawn o sgiliau rheoli llwyfan, tra’n canolbwyntio ar eich dewis o arbenigedd.

BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Cyfle i gael profiad ymarferol mewn 11 rôl gynhyrchu yn ein hyfforddiant arbenigol sy’n arwain at amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa yn y diwydiant adloniant.
Rhagor o wybodaeth

Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd

Drwy brofiad gwaith a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu sut mae cynllunio, drafftio, adeiladu a gosod setiau i safon broffesiynol wrth weithio ar ein cynyrchiadau cyhoeddus niferus.
Rhagor o wybodaeth

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol

Trwy gynyrchiadau mewnol y Coleg, lleoliadau yn y diwydiant a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau perthnasol sy’n ymwneud â gwaith y technegydd cynhyrchu ym meysydd theatr, digwyddiadau, ffilm a theledu.
Rhagor o wybodaeth

MA Celf Golygfeydd ac Adeiladu

Cyfle i archwilio dulliau arloesol o greu setiau, propiau a chefndiroedd ar gyfer y llwyfan a’r sgrin – wrth weithio ar nifer o berfformiadau cyhoeddus – yn y cwrs trochi hwn sy'n gwthio ffiniau gwireddu cynyrchiadau.
Rhagor o wybodaeth

MA Cynllunio Cyfryngau Digidol a Chynhyrchu

Cewch y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i fod yn ddylunydd goleuo arloesol sy’n gallu gweithio’n ddi-dor ar draws theatr, teledu, ffilm a digwyddiadau byw.
Rhagor o wybodaeth

MA Dylunio a Chynhyrchu Goleuo

Cewch y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i fod yn ddylunydd goleuo arloesol sy’n gallu gweithio’n ddi-dor ar draws theatr, teledu, ffilm a digwyddiadau byw.
Rhagor o wybodaeth

MA Dylunio a Chynhyrchu Sain

Datblygu amrywiaeth eang o dechnegau dylunio sain uwch ar gyfer llwyfan a sgrin yn ein hyfforddiant sy’n cyfuno addysg arbenigol â stiwdios recordio a mannau perfformio o’r radd flaenaf.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheoli Cynyrchiadau

Ennill yr holl sgiliau trefnu, technegol, ariannol a gwaith tîm sydd eu hangen arnoch i reoli prosiectau a chynyrchiadau'n llwyddiannus o'r dechrau i'r diwedd.
Rhagor o wybodaeth

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Gyda hyfforddiant gan arbenigwyr yn y diwydiant a phedwar lleoliad gwaith, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym myd cynhyrchu ffilmiau, digwyddiadau byw, theatr a theledu.
Rhagor o wybodaeth

Archwilio’r adran hon