Jazz

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.

Trochwch eich hun mewn hyfforddiant proffesiynol wedi’i deilwra gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU. Byddwch yn astudio mewn grwpiau bach ac yn cael cyfleoedd dihafal i berfformio a dod yn rhan o sîn jazz ffyniannus.

Pam astudio jazz yn CBCDC?

  • Byddwch yn cael gwersi un-i-un gyda nifer o gerddorion proffesiynol blaenllaw yn y DU, nid dim ond un – mae gan y tiwtoriaid hyn i gyd ddulliau ac arbenigeddau gwahanol, felly gallwch benderfynu beth sy’n gweithio orau i chi ac yna addasu eich hyfforddiant trwy gydol eich cwrs.
  • Byddwch yn archwilio repertoire ac arddull jazz – gan ddysgu am darddiad a datblygiad jazz drwy’r degawdau a’r amodau cymdeithasol-wleidyddol y deilliodd ohonynt er mwyn llywio eich perfformiad.
  • Cewch ddigon o gyfleoedd i gydweithio – sefydlu ensembles gyda’ch cydfyfyrwyr jazz, gweithio gydag adrannau cerddoriaeth eraill a phob disgyblaeth ar draws y Coleg. Gallwch chwarae rhan hollbwysig yn rhaglen gyhoeddus brysur CBCDC o jazz, opera, theatr gerddorol, cyngherddau cerddorfaol a drama wobrwyedig.
  • Byddwch wrth galon y sîn jazz yma yng Nghaerdydd, gyda nifer o’n myfyrwyr a’n graddedigion yn sefydlu ac yn curadu llawer o’r gigs yng nghanol y ddinas – y gallwch gymryd rhan ynddynt hefyd.
  • Mae gennym amrywiaeth o ensembles Jazz mawr; Band Mawr CBCDC, Band Mawr Repertoire, sesiwn jam wythnosol gyda gwesteion a phrosiectau perfformio yn canolbwyntio ar offeryn/llais.
     

Hyfforddiant un-i-un a dosbarthiadau grŵp ar draws amrywiaeth o genres

P’un a ydych yn astudio ar lefel gradd neu ôl-radd, byddwch yn datblygu safle artistig unigol o ran arddull - safbwynt creadigol - ac yn gweithio i ddod y cerddor jazz gorau y gallwch fod.

Byddwch yn cael hyfforddiant un-i-un ar eich hoff offeryn: bas, drymiau, ffliwt, gitâr, piano, sacsoffon, trombôn, trymped neu lais. Os nad yw’r hyn yr hoffech ei astudio ar y rhestr hon, yna bydd angen i chi ei gadarnhau gyda ni ymlaen llaw.

Bydd dosbarthiadau sgiliau technegol a thrawsgrifio yn ategu eich gwersi un-i-un. Ac yn ein dosbarthiadau grŵp bach, byddwch yn canolbwyntio ar rihyrsio deunydd o amrywiaeth o genres o dan ymbarél jazz, gan gynnwys repertoire safonol, cyfoes a byd-eang.
 

Sgiliau a datblygiad proffesiynol

Fel artist creadigol sy’n astudio yma, byddwch yn herio eich ymatebion esthetig a beirniadol i gerddoriaeth, gan eich helpu i ddarganfod beth rydych yn ei hoffi – a beth nad ydych yn ei hoffi.

Ein nod yw rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o’r amrywiaeth o arddulliau sydd gan jazz i’w cynnig – ond hefyd eich arwain i ddod yn gerddor unigol ond cyflawn a chyflogadwy.

Felly, byddwch nid yn unig yn adeiladu eich gwybodaeth am iaith, prosesau a repertoire jazz, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn:

  • cyfansoddi
  • trefnu
  • arwain band
  • hunan hyrwyddo
  • rheoli digwyddiadau

Wrth i chi nesáu at eich cyfnod astudio olaf, gallwch ddewis modiwlau a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar y maes rydych am weithio ynddo ar ôl graddio, megis perfformio, ysgrifennu neu addysgu.

Cydweithio ar draws yr adran a’r Coleg

Mae’r posibiliadau’n amrywiol ac yn ddiderfyn: gallwch gymryd rhan mewn prosiectau cydweithio creadigol llai, ensembles mwy neu weithio gyda gwahanol adrannau. Gallech fod yn gerddor sesiwn mewn band mawr neu aelod o’r côr jazz, neu hyd yn oed weithio gyda’n myfyrwyr theatr gerddorol neu ar gynhyrchiad drama.

Mae jazz yn ffurf ryngweithiol a chydweithredol iawn, felly elfen hollbwysig arall o’ch hyfforddiant yw chwarae mewn ensemble.

Yma, fe gewch y profiad digyffelyb hwnnw o fod yn y foment, yn creu gyda chantorion a cherddorion eraill ar y llwyfan. Nid yw’n ymwneud cymaint â sut rydych chi’n chwarae – mae’n ymwneud â’r hyn rydych yn ei chwarae a sut rydych yn gwneud i’r gerddoriaeth honno weithio gyda’i gilydd.
 

Cyfleoedd i berfformio

Mae perfformio wrth galon ein holl gyrsiau ac yn elfen hanfodol o’ch hyfforddiant.

Mae ein holl berfformiadau – gan gynnwys eich asesiadau a’ch arholiadau – yn cael eu rhoi ar lwyfan proffesiynol yn gyhoeddus, boed hynny yn ein neuadd gyngerdd neu yn Theatr Richard Burton. Ac mae hynny’n golygu y bydd gennych dîm technegol proffesiynol yng ngofal y sain a’r goleuo, gan roi gwir deimlad i chi o sut beth yw chwarae’n broffesiynol i gynulleidfa fyw yn rheolaidd.

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ffurfio eu ensembles eu hunain - felly yn ogystal â chael eich gosod mewn grŵp wrth i chi symud ymlaen drwy eich cwrs byddwch hefyd yn dod o hyd i’ch cydweithwyr cerddorol ac yn cael cyfleoedd cyson i berfformio gyda nhw trwy gydol y flwyddyn
 

Sesiynau jazz dan arweiniad myfyrwyr bob nos Wener – AmserJazzTime

I gael profiad ymarferol o gynllunio a chyflwyno perfformiadau byw – a pherfformio gyda’ch grŵp eich hun – gallwch gymryd rhan yn ein sesiynau hynod boblogaidd, dan arweiniad myfyrwyr, bob nos Wener. Mae’r rhain yn cael eu mwynhau gan gynulleidfa gyhoeddus ffyddlon, sy’n amrywio o wybodusion selog i rai sy’n mwynhau cerddoriaeth ac yn mynychu’n achlysurol.

Chwarae yn ein gŵyl jazz flynyddol

Daw tymor yr haf i ben gyda gŵyl jazz a gynhelir yma yn y Coleg. Mae'r ŵyl a thaith o amgylch lleoliadau celfyddydol yn cynnig llwyfan i chi arddangos eich gwaith i gynulleidfaoedd newydd - tra hefyd yn cael profiad proffesiynol gwerthfawr.

Mae prif berfformwyr blaenorol yr ŵyl jazz yn cynnwys Quercus, Roots and Herbs Jean Toussaint, Vento Em Madeira, Get the Blessing, John Taylor a Phedwarawd Darius Brubeck. Bydd yr adran yn perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau jazz ledled y DU, gan gynnwys London Jazz.
 

Addysgir gan gerddorion proffesiynol o fri

O blith ein tîm cryf o 25 o diwtoriaid – pob un yn weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y DU – bydd gennych ddau neu dri a fydd yn arwain eich gwersi un-i-un.

Mae gweithio gydag ystod o arbenigwyr sydd â gwahanol ddulliau yn rhoi persbectif ehangach i chi o’r ffurf - a’r diwydiant - ac yn caniatáu i chi deilwra’ch hyfforddiant wrth i chi fynd drwy’ch cwrs.
 

Arweinir gan addysgwr a cherddor blaenllaw

Mae Paula Gardiner, pennaeth yr adran jazz, yn fasydd jazz a chyfansoddwr o fri, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer theatr, radio a ffilm, yn ogystal â rhyddhau sawl recordiad o dan ei henw ei hun. Cafodd ei henwebu am Wobr Jazz Seneddol am addysg ac mae’n aelod gweithgar o Gyngor Jazz Academi Ivors.

Mae wedi gweithio ledled y byd, gan rannu ei cherddoriaeth ar draws ystod amrywiol o brosiectau. Mae ei hagwedd at gerddoriaeth yn un sy’n archwilio croesi ffiniau ac yn dod â’r ethos hwn i’r rhaglenni jazz yma yn CBCDC.

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy