DigwyddiadJazz Promotion Network: Showcase IYmunwch â ni dros ddwy noson, fel rhan o Gynhadledd Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz, i ddathlu’r artistiaid jazz gorau o bob cwr o’r DU ac Iwerddon.
DigwyddiadJazz Promotion Network: Showcase IIYmunwch â ni dros ddwy noson, fel rhan o Gynhadledd Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz, i ddathlu’r artistiaid jazz gorau o bob cwr o’r DU ac Iwerddon. Bydd y nosweithiau arddangos hyn yn croesawu rhestr wych o artistiaid gan gynnwys y cerddorion Huw Warren ac Angharad Jenkins o Gymru, a fydd yn cyflwyno eu prosiect deuawd newydd ‘The Gower Nightingale / Eos Gŵyr’ sy’n archwilio traddodiadau cerddorol, hunaniaeth ac iaith gan ganolbwyntio ar Benrhyn Gŵyr ac Abertawe lle magwyd y ddau gerddor. Cyhoeddir mwy o artistiaid yn fuan. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyd-letyir gan CBCDC ac Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.
DigwyddiadGolygfeydd OperaYm mherfformiad cyhoeddus cyntaf Ysgol Opera David Seligman eleni, bydd y myfyrwyr yn perfformio golygfeydd cyfarwydd o operâu poblogaidd ochr yn ochr â thameidiau llawn sbeis o repertoire llai adnabyddus yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, yn amrywio o Britten i heddiw.
DigwyddiadConnaught BrassMae Connaught Brass yn ceisio ailddiffinio sut mae cerddoriaeth siambr pres yn cael ei dirnad, gan gyfuno parch dwfn at dreftadaeth gyfoethog y genre â phersbectif ffres ac ifanc. Trwy gomisiynau newydd sbon gan Robin Haigh a Dani Howard, ac ymrwymiad i wreiddioldeb, mae Connaught Brass yn rhoi bywyd newydd i draddodiad, gan gynnig profiad cyngerdd unigryw a diddorol.
DigwyddiadGwobr y Gân Syr Bryn TerfelBydd rhai o’r cantorion israddedig mwyaf addawol o gonservatoires y DU yn cystadlu am yr anrhydedd o ddod yn enillydd cyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel. Yn un o gantorion opera mwyaf uchel ei barch y byd ac Is-lywydd CBCDC, mae Syr Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol a chelfyddyd cân. Nod y gystadleuaeth hon yw dathlu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyda phob cystadleuydd yn perfformio o ganon mawr y gân gelf, caneuon o’u treftadaeth eu hunain a chân yn Gymraeg. Bydd Bryn yn cadeirio’r panel rhyngwladol o feirniaid arbenigol o fyd cerddoriaeth leisiol ac opera.
DigwyddiadBand Brass CBCDC: DathliadYmunwch â ni am gyngerdd awr ginio hyfryd yn cyflwyno danteithion o gerddoriaeth ysgafn o Brydain gan dri chyfansoddwr poblogaidd. I anrhydeddu pen-blwydd Edward Gregson yn 80 oed, rydym yn cyflwyno Partita, un o’i weithiau cynharaf a mwyaf oesol ar gyfer band pres. Mae Little Suite for Brass gan Malcolm Arnold, a gyfansoddwyd 60 mlynedd yn ôl ar gyfer Band Ieuenctid Cernyw, yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda’i chymeriad bywiog. Rydym hefyd yn cynnwys Concerto Peter Graham ar gyfer Ewffoniwm, a berfformir y prynhawn hwn gan Oliver Hodgkiss, enillydd Cystadleuaeth Unawd Pres Besson CBCDC.
DigwyddiadSynergedd: ALAW, VRï a Hannah JamesMae chwech o ddoniau gwerin eithriadol o Gymru a Lloegr yn ymuno ar gyfer cydweithrediad unigryw ac arbennig. Mae ALAW yn cyfuno cyfansoddi caneuon pwerus ag alawon gwreiddiol. Mae VRï, enillwyr yr Albwm Gorau ddwywaith yng Ngwobrau Gwerin Cymru, yn cyfuno harddwch llinynnau clasurol â hedoniaeth sesiwn dafarn ac mae Hannah James yn gerddor, cantores a dawnswraig arloesol hudolus
DigwyddiadLittle Concerts: Harp Hurrah!Ymunwch â cherddorion proffesiynol ifanc gwych o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) mewn awr lawen o greu cerddoriaeth gyffrous wedi’i chynllunio o amgylch arddulliau dysgu aelodau ieuengaf ein cynulleidfa.
DigwyddiadClaire Booth a Ensemble 360: Berio Folk SongsMae Ensemble 360 a Claire Booth, sydd wedi meithrin partneriaeth ddeinamig drwy eu perfformiadau ar y cyd o Pierrot Lunaire gan Schoenberg, bellach yn troi eu sylw at Ganeuon Gwerin hynod a diddorol Berio ym mlwyddyn canmlwyddiant geni’r cyfansoddwr. Yn wir, mae dylanwadau gwerin yn treiddio’r rhaglen gyfan, o ddeuawd bugeiliol Rebecca Clarke ar gyfer clarinét a fiola ac atgof Katherine Hoover o bobl yr Hopi i luniau swynol a heulog Ravel o Fadagasgar.
DigwyddiadCerddorfa Symffoni CBCDC: ProdigyMae personoliaethau rhyfeddol ac amrywiaeth feistrolgar yn nodweddu noson o berfformiadau premiere byd gan gyfansoddwyr CBCDC, a bydd enillydd y Gystadleuaeth Concerto Jason Sones yn perfformio concerto piano cynnar Liszt.