
Steven Barnard
Tiwtor Tympani
Rôl y swydd: Tiwtor Basŵn
Adran: Chwythbrennau
Mae Llinos yn Is-Brif Fasŵn a Contra gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Magwyd Llinos ym Mhwllheli yng Ngogledd Cymru, cyn mynychu Ysgol Gerdd Chetham ar gyfer y 6ed dosbarth, darllen Cerddoriaeth ym mhrifysgol Caergrawnt, ac ennill gradd ôl-raddedig o'r Academi Frenhinol yn Llundain.
Cyn ymuno â WNO yn 2022, treuliodd Llinos wyth mlynedd
hapus fel Is-Brif Fasŵn a Contra gyda Cherddorfa Ballet Brenhinol Birmingham,
ac fel Prif Fasŵn gyda Cherddorfa Siambr y Gogledd. Mae hi'n parhau i weithio
gyda gwahanol gerddorfeydd gan gynnwys fel prif fasŵn gwadd gyda'r Tŷ Opera
Brenhinol, The Halle, Opera North, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Yn ogystal â chwarae a dysgu, mae Llinos yn arholwr ABRSM ac yn feirniad ar gyfer gwobrau ac eisteddfodau. Treuliodd bum mlynedd yn hyfforddi a chystadlu gyda Thîm Caiacio Paralympaidd Prydain Fawr, ac mae hefyd yn gyflwynydd ar y gyfres boblogaidd Cynefin ar S4C.