Nicholas Daniel & Catherine Milledge
Mae rhai cerddorion yn sicr yn mynd i mewn i enaid eu hofferyn, ac ers pum degawd mae Nicholas Daniel wedi bod yn un o oböwyr mwyaf ysbrydoledig - a phoblogaidd - y DU. Rydym wrth ein bodd yn ei groesawu’n ôl i’r CBCDC am gyngerdd llawn rhyfeddod. O hud a dirgelwch mythau Groegaidd Britten i ddisgleirdeb Paris ar droad y ganrif, mae’n gwbl gyfareddol.