Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Canlyniadau chwilio

Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1725 o ganlyniadau wedi’u canfod.

Digwyddiad

Ffilm: Mr Burton

Ym 1942 ym Mhort Talbot, mae’r gŵr ifanc Richard Jenkins - a gaiff ei adnabod yn ddiweddarach fel yr actor Richard Burton - yn dyrchafu o fod yn fab i löwr i seren y dyfodol. Dan arweiniad yr athro Philip Burton a’r landlordes Ma Smith mae ei dalent graidd yn ffynnu, ond mae pwysau ei orffennol yn bygwth ei lwybr i fawredd yn y stori ryfeddol hon.
Digwyddiad

Ochr yn Ochr gyda Band Cory

Rydym yn gwahodd cerddorion band pres ifanc o safon Gradd 5 neu uwch i’n dydd Sul ochr yn ochr gyda Band Cory a myfyrwyr CBCDC. Byddwch yn rihyrsio gyda cherddorion rhyfeddol Band Cory a myfyrwyr CBCDC yn y bore, yna’n cynnal perfformiad cyn y cyngerdd ac eitem ar y llwyfan gyda Band Cory yn ystod cyngerdd y prynhawn.
Digwyddiad

Cory Band

Mae un o fandiau pres mwyaf gwobrwyedig y byd yn dychwelyd i’w gartref yng Nghaerdydd am noson o gerddoriaeth na ddylid ei cholli yn CBCDC, lle mae Cory yn falch o fod yn Fand Pres Preswyl. Dan arweiniad eu Cyfarwyddwr Cerdd ysbrydoledig Philip Harper, bydd Cory yn perfformio rhaglen feiddgar ac amrywiol sy’n cynnwys clasuron bythol bandiau pres, cerddoriaeth o ffilmiau John Williams, ac unawdau cyfareddol gan brif chwaraewyr y band - rhai o gerddorion offerynnau pres gorau’r byd. Mae’r noson hefyd yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan y genhedlaeth nesaf o dalent pres, a fydd yn camu i’r llwyfan ar ôl diwrnod o weithdai gyda Band Cory a pherfformwyr CBCDC. Byddwch yn barod am chwarae o’r radd flaenaf, repertoire cyffrous a’r egni diamheuol sydd wedi gwneud Cory yn un o fandiau pres gorau’r byd!
Digwyddiad

Jazz Promotion Network: Showcase I

Ymunwch â ni dros ddwy noson, fel rhan o Gynhadledd Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz, i ddathlu’r artistiaid jazz gorau o bob cwr o’r DU ac Iwerddon.
Digwyddiad

Jazz Promotion Network: Showcase II

Ymunwch â ni dros ddwy noson, fel rhan o Gynhadledd Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz, i ddathlu’r artistiaid jazz gorau o bob cwr o’r DU ac Iwerddon. 
Digwyddiad

Golygfeydd Opera

Ym mherfformiad cyhoeddus cyntaf Ysgol Opera David Seligman eleni, bydd y myfyrwyr yn perfformio golygfeydd cyfarwydd o operâu poblogaidd ochr yn ochr â thameidiau llawn sbeis o repertoire llai adnabyddus yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, yn amrywio o Britten i heddiw.
Digwyddiad

Connaught Brass

Mae Connaught Brass yn ceisio ailddiffinio sut mae cerddoriaeth siambr pres yn cael ei dirnad, gan gyfuno parch dwfn at dreftadaeth gyfoethog y genre â phersbectif ffres ac ifanc. Trwy gomisiynau newydd sbon gan Robin Haigh a Dani Howard, ac ymrwymiad i wreiddioldeb, mae Connaught Brass yn rhoi bywyd newydd i draddodiad, gan gynnig profiad cyngerdd unigryw a diddorol.
Digwyddiad

Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel

Bydd rhai o’r cantorion israddedig mwyaf addawol o gonservatoires y DU yn cystadlu am yr anrhydedd o ddod yn enillydd cyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel. Yn un o gantorion opera mwyaf uchel ei barch y byd ac Is-lywydd CBCDC, mae Syr Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol a chelfyddyd cân. Nod y gystadleuaeth hon yw dathlu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyda phob cystadleuydd yn perfformio o ganon mawr y gân gelf, caneuon o’u treftadaeth eu hunain a chân yn Gymraeg. Bydd Bryn yn cadeirio’r panel rhyngwladol o feirniaid arbenigol o fyd cerddoriaeth leisiol ac opera.
Digwyddiad

Band Brass CBCDC: Dathliad

Ymunwch â ni am gyngerdd awr ginio hyfryd yn cyflwyno danteithion o gerddoriaeth ysgafn o Brydain gan dri chyfansoddwr poblogaidd. I anrhydeddu pen-blwydd Edward Gregson yn 80 oed, rydym yn cyflwyno Partita, un o’i weithiau cynharaf a mwyaf oesol ar gyfer band pres. Mae Little Suite for Brass gan Malcolm Arnold, a gyfansoddwyd 60 mlynedd yn ôl ar gyfer Band Ieuenctid Cernyw, yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda’i chymeriad bywiog. Rydym hefyd yn cynnwys Concerto Peter Graham ar gyfer Ewffoniwm, a berfformir y prynhawn hwn gan Oliver Hodgkiss, enillydd Cystadleuaeth Unawd Pres Besson CBCDC.
Digwyddiad

Synergedd: ALAW, VRï a Hannah James

Mae chwech o ddoniau gwerin eithriadol o Gymru a Lloegr yn ymuno ar gyfer cydweithrediad unigryw ac arbennig. Mae ALAW yn cyfuno cyfansoddi caneuon pwerus ag alawon gwreiddiol. Mae VRï, enillwyr yr Albwm Gorau ddwywaith yng Ngwobrau Gwerin Cymru, yn cyfuno harddwch llinynnau clasurol â hedoniaeth sesiwn dafarn ac mae Hannah James yn gerddor, cantores a dawnswraig arloesol hudolus