Myfyrwyr Theatr Gerddorol yn ysgwyd y castell gyda’r seren Will Smith

Men in Black, Welsh Division, Assemble!
Ymatebodd myfyrwyr Theatr Gerddorol CBCDC i’r her a osodwyd gan dîm Will Smith – bod yn ddawnswyr cefndir i’r seren Americanaidd pan ddaeth i Gastell Caerdydd fel rhan o gyfres cyngherddau haf mawr Depot Live?
Gyda fawr ddim amser i baratoi, daeth hyfforddiant theatr gerddorol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant ein myfyrwyr, a’u profiad cyson o berfformio’n fyw, i’r amlwg wrth iddynt gamu i’r llwyfan ar gyfer noson llawn egni yng Nghastell Caerdydd gyda phob tocyn wedi’i werthu.
Allow Instagram content?
Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Ysgwyd yr ystafell yn arddull Will Smith
Unwaith y daeth yr alwad, roedd yn rhaid i’r myfyrwyr ymateb yn gyflym. Oherwydd natur y gwaith, roedd yn rhaid iddynt reoli eu hunain: anfonwyd y coreograffi atynt ar dropbox ar gyfer y set MIB ynghyd ag esboniad byr o drefn y noson, a dywedwyd wrthynt i gyfarfod yng Nghastell Caerdydd.
Unwaith y cyrhaeddon nhw, aethpwyd â nhw i’r ardal gwirio sain gyda phrif gapten dawns Will Smith, lle buont yn gweithio trwy’r drefn gyda hi a thîm dawnswyr parhaol Will.
Yna gallai’r myfyrwyr wylio’r cyngerdd o gefn y llwyfan, cyn mynd ymlaen gyda Will Smith yn ystod ei sioe fawr MIB.
Ar ôl perfformio aethant allan i’r blaen i wylio gweddill y sioe, a chael eu boddi â cheisiadau gan y gynulleidfa am luniau.
Yna gallai’r myfyrwyr wylio’r cyngerdd o gefn y llwyfan, cyn mynd ymlaen gyda Will Smith yn ystod ei sioe fawr MIB.
Ar ôl perfformio aethant allan i’r blaen i wylio gweddill y sioe, a chael eu boddi â cheisiadau gan y gynulleidfa am luniau.
‘Roedd yn brofiad anhygoel gweithio gyda thîm Will, a rhoddodd fewnwelediad go iawn i ba mor gyflym y gallai rihyrsal gwirio sain fod.
Roedd y capteiniaid dawns yn gwybod yn union beth yr oeddent eisiau a chawsom ein gosod yn ein lle ar unwaith. Gan ddefnyddio fy hyfforddiant Coleg, llwyddais i drosi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn brofiad ymarferol yn y diwydiant. Mae hyn wedi fy nghyffroi’n fawr ynghylch yr hyn sydd i ddod ac rwy’n ddiolchgar dros ben am y cyfle hwn.
Roedd hefyd yn anhygoel cysylltu ag artistiaid creadigol a pherfformwyr eraill o Gaerdydd.
Teimlodd llawer ohonom yr egni nerfus wrth berfformio i dorf mor fawr, a gydag enw enfawr, ond gyda’r awyrgylch rhyfeddol roedden ni i gyd yn teimlo y gallem ymateb i’r hyn a ddisgwylid gennym bron yn syth.
Dysgais bwysigrwydd dysgu cymaint â phosibl mewn rihyrsal gan mai dim ond un a gawsom. Yna, ein cyfrifoldeb ni oedd gwneud yn siŵr ein bod yn gwybod ein hamseru a’r cyfrif a’r tro nesaf y gwnaethom berfformio oedd o flaen torf o dros 10,000+ o bobl!
Roedd gorfod cymryd perchnogaeth ar unwaith yn brofiad amhrisiadwy y byddaf yn ei ddefnyddio wrth symud ymlaen yn fy hyfforddiant.’Annie McGinnMusical Theatre student
Darlithydd dawns Theatr Gerddorol Justin Sparkes oedd cydlynydd tîm dawns MIB CBCDC:
‘Mae cael profiad ymarferol yn y diwydiant yn un o’r pethau pwysicaf y mae’r Coleg yn ei ddarparu i’w fyfyrwyr Theatr Gerddorol, ac mae’n dangos iddynt ble gall eu talent eu harwain.
Roedd perfformio gydag enw mor fyd-enwog, ac mewn amgylchedd mor ddwys, o flaen torf enfawr ar fyr rybudd yn gyfle anhygoel, a gwnaethant ymateb i’r her gyda phroffesiynoldeb llwyr. ‘
Cydweithio â Chaerdydd
Daeth Will Smith i gefn llwyfan i ddiolch i’r dawnswyr gyda lluniau a sawl pawen lawen!
Ymunodd dawnswyr o Gaerdydd, o Stiwdio Ddawns Jeff Guppy, Stiwdios J1 ac Ysgol Theatr Gweriniaeth Anzani, â myfyrwyr Theatr Gerddorol CBCDC ar y llwyfan – a diolch yn fawr iawn i’r darlithwyr dawns Theatr Gerddorol eraill, Amy Guppy ac Aran Anzani-Jones, am eu gwaith cydlynu a’u cefnogaeth.
Allow Instagram content?
Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.