Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Canlyniadau chwilio

Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1725 o ganlyniadau wedi’u canfod.

Digwyddiad

Little Concerts: Harp Hurrah!

Ymunwch â cherddorion proffesiynol ifanc gwych o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) mewn awr lawen o greu cerddoriaeth gyffrous wedi’i chynllunio o amgylch arddulliau dysgu aelodau ieuengaf ein cynulleidfa.
Digwyddiad

Claire Booth a Ensemble 360: Berio Folk Songs

Mae Ensemble 360 a Claire Booth, sydd wedi meithrin partneriaeth ddeinamig drwy eu perfformiadau ar y cyd o Pierrot Lunaire gan Schoenberg, bellach yn troi eu sylw at Ganeuon Gwerin hynod a diddorol Berio ym mlwyddyn canmlwyddiant geni’r cyfansoddwr. Yn wir, mae dylanwadau gwerin yn treiddio’r rhaglen gyfan, o ddeuawd bugeiliol Rebecca Clarke ar gyfer clarinét a fiola ac atgof Katherine Hoover o bobl yr Hopi i luniau swynol a heulog Ravel o Fadagasgar.
Digwyddiad

Cerddorfa Symffoni CBCDC: Prodigy

Mae personoliaethau rhyfeddol ac amrywiaeth feistrolgar yn nodweddu noson o berfformiadau premiere byd gan gyfansoddwyr CBCDC, a bydd enillydd y Gystadleuaeth Concerto Jason Sones yn perfformio concerto piano cynnar Liszt.
Digwyddiad

Theatr Little Angel: The Paper Dolls

Mae merch fach yn torri llinyn o ddoliau papur, yn cydio yn eu dwylo a gyda’i gilydd maent yn mynd ar antur llawn rhyfeddod sy’n troelli trwy eu cartref a’u gardd. Mae Ticky, Tacky, Jackie the Backie, Jim gyda dau drwyn a Jo gyda’r bwa yn hedfan trwy amser ac yn gwibio ar draws bydoedd o hwyl a chyffro. Maent yn wynebu crafangau Jwrasig deinosor tegan a genau perygl maneg popty ar ffurf crocodeil, ac yna mae bachgen go iawn gyda siswrn go iawn yn bygwth torri ar eu hantur… Cyd-gynhyrchiad Theatr Little Angel a Theatr Polka, yn seiliedig ar y llyfr gwreiddiol gan Julia Donaldson a Rebecca Cobb
Digwyddiad

Rownd Gynderfynol y Gystadleuaeth Concerto

Cyfle i glywed ein hunawdwyr rhagorol yn perfformio am yr anrhydedd o gystadlu yn rownd derfynol y Gystadleuaeth Concerto a gynhelir yn y Gwanwyn, gan ennill y cyfle i ymddangos fel unawdydd gydag un o ensembles mawr CBCDC.
Digwyddiad

Fibonacci Quartet

Daw pethau gwych mewn pecynnau bach – dim ond pedwar cerddor sydd eu hangen i ffurfio pedwarawd llinynnol, ond mae’r emosiynau y gallant eu creu yn ddiddiwedd. Huodledd a ffraethineb y ddeunawfed ganrif, nwydau gwyllt o gefn gwlad Hwngari, a golygfa forol o’r Alban o ddychymyg rhyfeddol Fergus Hall: mae unrhyw beth yn bosibl pan fydd Pedwarawd Fibonacci yn dychwelyd i’r Coleg.
Digwyddiad

Pianyddion CBCDC: Cerddoriaeth y Nos

Mae’r nos wedi ysbrydoli cyfansoddwyr erioed, wedi’u denu i bortreadu ei dirgelwch, ei rhamant, ei pherygl, neu ei thawelwch. Yn y cyngerdd hwn mae myfyrwyr piano CBCDC yn archwilio cyfoeth mawr cerddoriaeth y nos ar gyfer y piano, gan ddatgelu ei harddwch a’i hamrywiaeth benodol.
Digwyddiad

Gala Opera WNO

Cyfle i ddathlu’r cydweithrediad blynyddol rhwng Ysgol Opera David Seligman a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru mewn noson o ddisgleirdeb a llawenydd, gyda golygfeydd ac ariâu yn arddangos talent opera sy’n dod i’r amlwg yn y Coleg.
Digwyddiad

Telyn a Gitâr CBCDC

Datganiad cydweithredol yn amlygu traddodiadau a rennir gan y gitâr a’r delyn. Yn cynnwys ‘The Glass Vase with Butterflies’ ar gyfer telyn a gitâr gan y gitarydd Americanaidd Anthony Sidney, bydd y perfformiad hwn o ddetholiad o weithiau unawdol a siambr yn archwilio cymeriad myfyriol yr offerynnau hyn.
Digwyddiad

Côr y Nadolig

Y dechrau perffaith i’ch Nadolig; Côr Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio ochr yn ochr â chantorion CBCDC mewn cyngerdd o repertoire corawl, opera a cherddoriaeth ar gyfer tymor yr ŵyl. Wedi’i gynnal yng Nghapel y Tabernacl yng nghanol Caerdydd, arweinir y noson gan Gorfeistr WNO, Freddie Brown a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans.