Cyngerdd Gala a Seremoni Wobrwyo Pen-blwydd The Talent Shack yn 10 oed
Dathlwch ein 10 mlynedd gyntaf wych gyda ni. Noson o wobrau ynghyd â chyngerdd o adloniant cerddorol o sioeau rydym wedi’u perfformio dros y degawd diwethaf. Treuliwch amser yn dathlu’r nifer o bobl ifanc, a’u teuluoedd, sydd wedi mynd trwy ein drysau a’r profiadau rydym wedi’u rhannu.