DigwyddiadSATORU: Catrin Finch & Lee HouseCamwch i mewn i fyd lle mae sain yn troi’n deimlad, ac mae cerddoriaeth yn meiddio holi’r cwestiynau na all geiriau eu gofyn. Mae'r profiad trochol hwn yn asio telyn arbrofol gyda thriniaeth electronig, a’r gair llafar i’ch tywys drwy daith bersonol ddwys, sonig. Mae pob nodyn, pob ymadrodd yn edau sy'n eich tynnu trwy ddirgelwch, emosiwn a datguddiad. Disgwyliwch gael eich cyffroi, eich cynhyrfu, a'ch trawsnewid.
DigwyddiadThe Paper Cinema: Short tales of other worldsStraeon byrion am fydoedd eraill; ysbrydion, breuddwydion a’r goruwchnaturiol. Mae storïwyr cyfareddol a llawn dychymyg The Paper Cinema yn creu bydoedd rhyfeddol, hudolus gyda lluniadau inc a phen llawn bywyd, pypedwaith, a thrysorfa o synau acwstig ac electronig.
DigwyddiadBlackRAT: Dai Cula Prince of the ValleysBlack RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno comedi newydd gan Richard Tunley Wedi iddo wylio'r holl gyfres o Who Do You Think You Are? Mae Dracula yn credu'n sicr bod ganddo gwaed brenhinol, diolch i gysylltiad amheus rhwng 'Vlad the Impaler' a Thywysog Cymru. Felly, mae'n archebu arch o Temu sy'n cyrraedd mewn pecyn gwastad, yn cadw lle mewn Airbnb, a bant â fe i'r Fforest Ddu...ond, mae'n diweddu lan yng Nghoed-duon yng nghymoedd De Cymru!
DigwyddiadMartha MastersWedi’i disgrifio gan The New York Times fel "Deinamig o ystwyth...bywiog a hyderus", mae hylifedd a chynhesrwydd i chwarae’r gitarydd Americanaidd Martha Masters sy’n gwneud i’r gwrandäwr fod eisiau clywed rhagor. O ffiwg a fflamenco i ychydig o Bossa Nova, mae’r rhaglen hon yn dangos y gitâr yn ei holl fawredd.
DigwyddiadAnt Law 'Unified Theories'Mae’r gitarydd blaenllaw Ant Law yn “dorrwr tir newydd” ac yn “arloeswr” fel y’i disgrifiwyd gan The Guardian. Unified Theories yw albwm newydd uchelgeisiol Law sy’n nodi dechrau aelodau band newydd sbon. Mae’n cynnwys Will Vinson (sacsoffon alto) sy’n dychwelyd i Brydain ar ôl degawdau ar flaen y gad yn sîn jazz Efrog Newydd, un o faswyr mwyaf amryddawn ac y mae galw mawr amdano yn Ewrop, Niklas Lukassen, a Ernesto Simpson (drymiau) o Giwba sy’n adnabyddus am ei waith gyda Dizzy Gillespie, Michael Brecker a llawer mwy