Martha Masters
Wedi’i disgrifio gan The New York Times fel "Deinamig o ystwyth...bywiog a hyderus", mae hylifedd a chynhesrwydd i chwarae’r gitarydd Americanaidd Martha Masters sy’n gwneud i’r gwrandäwr fod eisiau clywed rhagor. O ffiwg a fflamenco i ychydig o Bossa Nova, mae’r rhaglen hon yn dangos y gitâr yn ei holl fawredd.