Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Band Brass CBCDC: Dathliad

Gwybodaeth

Ymunwch â ni am gyngerdd awr ginio hyfryd yn cyflwyno danteithion o gerddoriaeth ysgafn o Brydain gan dri chyfansoddwr poblogaidd. I anrhydeddu pen-blwydd Edward Gregson yn 80 oed, rydym yn cyflwyno Partita, un o’i weithiau cynharaf a mwyaf oesol ar gyfer band pres. Mae Little Suite for Brass gan Malcolm Arnold, a gyfansoddwyd 60 mlynedd yn ôl ar gyfer Band Ieuenctid Cernyw, yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda’i chymeriad bywiog. Rydym hefyd yn cynnwys Concerto Peter Graham ar gyfer Ewffoniwm, a berfformir y prynhawn hwn gan Oliver Hodgkiss, enillydd Cystadleuaeth Unawd Pres Besson CBCDC.

Ewffoniwm Oliver Hodgkiss

Malcolm Arnold Little Suite for Brass No.2

Peter Graham Concerto for Euphonium - Force of Nature

Edward Gregson Partita

Digwyddiadau eraill cyn bo hir