Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel

Tocynnau: £10 - £20

Gwybodaeth

Bydd rhai o’r cantorion israddedig mwyaf addawol o gonservatoires y DU yn cystadlu am yr anrhydedd o ddod yn enillydd cyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel. Yn un o gantorion opera mwyaf uchel ei barch y byd ac Is-lywydd CBCDC, mae Syr Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol a chelfyddyd cân. Nod y gystadleuaeth hon yw dathlu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyda phob cystadleuydd yn perfformio o ganon mawr y gân gelf, caneuon o’u treftadaeth eu hunain a chân yn Gymraeg. Bydd Bryn yn cadeirio’r panel rhyngwladol o feirniaid arbenigol o fyd cerddoriaeth leisiol ac opera.

Cefnogir Gwobr y Gân gan y Gronfa y datblygwyd gan Syr Bryn Terfel mewn partneriaeth â'r Coleg.

I gefnogi'r Gronfa, Gwobr y Gân, a dyfodol cân Cymru, cysylltwch â development@rwcmd.ac.uk.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir