Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Jazz Promotion Network: Showcase II

Tocynnau: £15

Gwybodaeth

Ymunwch â ni fel rhan o Gynhadledd Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz, i ddathlu’r artistiaid jazz gorau o bob cwr o’r DU ac Iwerddon. 

Mae'r noson yn croesawu rhestr wych o artistiaid gan gynnwys y cerddorion Huw Warren ac Angharad Jenkins o Gymru, a fydd yn cyflwyno eu prosiect deuawd newydd ‘The Gower Nightingale / Eos Gŵyr’ sy’n archwilio traddodiadau cerddorol, hunaniaeth ac iaith gan ganolbwyntio ar Benrhyn Gŵyr ac Abertawe lle magwyd y ddau gerddor. 

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyd-letyir gan CBCDC ac Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Rhaglen

7.15pm

Sylvie + Ursula

Rhaglen

8pm

Joseph Leighton Quartet

Rhaglen

8.45pm

Right Here, Right Now

Rhaglen

9.30pm

Norman&Corrie

Rhaglen

10.15pm

Huw Warren & Angharad Jenkins

Ynglŷn â Chynhadledd ac Arddangosfa Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz 2025

Mae’n bleser mawr gan CBCDC ynghyd ag Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd gynnal, am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, Gynhadledd ac Arddangosfa Rhwydwaith Hyrwyddo Jazz. Yn ogystal â dod â’r gymuned jazz o bob cwr o’r DU ac Iwerddon ynghyd, gan gynnwys cerddorion, addysgwyr, labeli, a mwy, bydd y gynhadledd (a gynhelir yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd) yn edrych ar y rôl unigryw y mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn sîn jazz Cymru. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Jazz Promotion Network

Digwyddiadau eraill cyn bo hir