Neidio i’r prif gynnwys

Cymorth ariannol

Rydym yn angerddol am sicrhau bod gan ein myfyrwyr y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw tra eu bod yn astudio yma, a gall ein hamryw ysgoloriaethau a bwrsariaethau helpu i'ch rhoi ar ben ffordd.

Ysgoloriaethau

Mae ysgoloriaethau yn fath o gyllid ychwanegol sydd ar gael diolch i haelioni rhoddwyr unigol, busnesau, ymddiriedolaethau a sefydliadau, sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo ein myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau. Maent yn gwbl ar wahân i arian cyllid myfyrwyr, ac felly nid oes angen eu had-dalu.

Ydw i’n gymwys?

Bydd y myfyrwyr canlynol yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth ysgoloriaeth:

  • Myfyrwyr â nodweddion gwarchodedig gyda phwyslais arbennig ar amrywiaeth ethnig ac anabledd
  • Myfyrwyr mewn angen ariannol (ar hyn o bryd incwm cartref o dan £30,000)
  • Myfyrwyr sy’n hanu o Gymru (Myfyrwyr sydd wedi bod yn byw yng Nghymru ers chwe blynedd)

Ar gyfer cyrsiau Cerddoriaeth, rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n astudio offerynnau mewn lle mae prinder o chwaraewyr megis y basŵn, corn Ffrengig, fiola, bas dwbl ac obo, gan mai’r rhain sydd â’r nifer isaf o fyfyrwyr ar hyn o bryd ac mae galw mawr amdanynt ar lefel broffesiynol. Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau dawn eithriadol ar gael, a fydd yn cael eu dyrannu gan y pennaeth astudiaeth ar ôl i’r broses glyweliad ddod i ben.

Bydd y Swyddfa Derbyniadau yn anfon y ffurflen gais am ysgoloriaeth yn uniongyrchol at fyfyrwyr, gyda manylion unrhyw ddyddiadau cau perthnasol.

Dyfernir pob ysgoloriaeth am hyd y cyfnod astudio oni nodir yn wahanol ac maent yn amodol ar gynnydd ac ymgysylltiad boddhaol â’r cwrs.

Ni allwn warantu y byddwn yn ystyried ymgeiswyr ar gyfer cymorth ysgoloriaeth os ydynt yn cyflwyno cais ar ôl dyddiad cau'r cwrs.

Pa ysgoloriaethau sydd ar gael?

Isod mae rhai enghreifftiau o ddyfarniadau ac ysgoloriaethau a ariennir yn allanol sy'n cael eu cynnig gennym.

Bwrsariaethau israddedig (myfyrwyr y DU yn unig)

Mae CBCDC yn cynnig cymorth bwrsariaeth, sydd ar gael yn ychwanegol at grantiau a benthyciadau cynhaliaeth sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth.

Mae pob myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf yn y DU sydd ag incwm cartref a aseswyd i fod yn llai na £30,000 yn gymwys i gael cymorth bwrsariaeth gwerth hyd at £1,200 y flwyddyn drwy gydol eu hastudiaethau, fel y nodir isod. Bydd yn cael ei dalu mewn 3 rhandaliad tymhorol.

Noder bod cymorth bwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer eu gradd israddedig gyntaf YN UNIG.

Incwm Cartref

£0-£18,370

Swm Bwrsariaeth

£1200 y flwyddyn

Incwm Cartref

£18,371-£30,000

Swm Bwrsariaeth

£800 y flwyddyn

Nid oes angen i chi wneud cais am fwrsariaeth. Bydd eich cymhwysedd yn cael ei bennu drwy brawf modd a gaiff ei gynnal gan eich corff ariannu myfyrwyr yn y DU i benderfynu ar gymhwysedd ar gyfer grantiau a benthyciadau gwladol.

Fodd bynnag, bydd angen i’r Coleg dderbyn eich data gan eich awdurdod dyfarnu ynglŷn ag incwm eich cartref.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried, gwnewch yn siŵr nad ydych yn ticio’r blwch ar eich ffurflen asesu Cyllid Myfyrwyr wreiddiol i atal caniatâd i rannu’r wybodaeth hon.

Cronfa Galedi Myfyrwyr CBCDC

Mae ein Cronfa Galedi Myfyrwyr ar gael i holl fyfyrwyr y DU a’r UE sy’n cael anhawster ariannol yn ystod eu hastudiaethau ac ar ôl i chi wneud cais efallai y dyfernir grant nad oes rhaid ei ad-dalu i chi i helpu gyda’r costau hyn.

Gall myfyrwyr presennol weld ffurflen gais y Gronfa Galedi a gwybodaeth bellach yma.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf