

Defnyddio ysgoloriaeth neu fwrsariaeth
Dysgwch sut gallwch chi ddefnyddio eich ysgoloriaeth neu’ch bwrsari i gefnogi eich astudiaethau.
Ffioedd Dysgu
Taliadau cynhaliaeth
Bydd unrhyw falans o gymorth ysgoloriaeth sy’n weddill ar ôl talu eich ffioedd dysgu yn cael ei dalu i chi mewn tri rhandaliad cyfartal bob tymor.
Os byddwch yn cael benthyciad ffioedd dysgu llawn, bydd eich ysgoloriaeth lawn yn cael ei thalu mewn tri rhandaliad cyfartal bob tymor.
Gwneir taliadau drwy drosglwyddiad banc i’ch cyfrif banc yn y DU, fel arfer yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, yn ystod pedwaredd wythnos Tymor y Gwanwyn, ac yn ystod pedwaredd wythnos Tymor yr Haf.
Gallwch gyflwyno eich manylion banc ar ôl i chi gofrestru a chael mynediad at systemau TG a chyfrif e-bost Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bwrsarïau israddedig
Mae bwrsarïau israddedig ar gyfer cynhaliaeth a byddant yn cael eu talu’n uniongyrchol i chi i’r un cyfrif banc â’ch benthyciad myfyrwyr. Bydd symiau a dyddiadau’r taliadau yn cael eu hamlinellu yn eich llythyr Dyfarniad Bwrsari.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Hanfodion cyllid myfyrwyr

Cymorth ariannol
