Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch

  • Dyfarniad:

    Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a'r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    10 mis dwys

  • Cod y cwrs:

    625F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Mae’r rhaglen hon sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn, ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am hyfforddiant terfynol, ychwanegol cyn ymuno â’r proffesiwn o’u dewis.

Trosolwg o’r cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi’i greu ar gyfer offerynwyr, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr, ac mae’n cynnig rhaglen astudio uwch sydd wedi’i theilwra i’r unigolion, am gyfnod o 10 mis.

Mae wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs meistr mewn perfformio neu gyfansoddi mewn conservatoire ac sy’n chwilio am hyfforddiant arbenigol terfynol, ychwanegol cyn ymuno â’r proffesiwn o’u dewis.

Cewch astudio unrhyw rai o’r meysydd hyn fel rhan o’ch cwrs:

  • Pres
  • Gitâr
  • Telyn
  • Allweddell
  • Offerynnau Taro
  • Llinynnau
  • Chwythbrennau
  • Arwain
  • Cyfansoddi
  • Canu

Byddwch yn sefydlu cynllun hyfforddi proffesiynol manwl ar y cychwyn cyntaf, a fydd yn eich tywys drwy eich 10 mis â ni. Mae’n ddogfen hyblyg sy’n adlewyrchu ar eich uchelgais creadigol a’r gweithgareddau a’r profiadau ymarferol sydd eu hangen arnoch yma i’w cyflawni.

Byddwch yn gweithio gyda’r uwch staff i ddyfeisio’r dulliau addysgu a dysgu ar gyfer eich cwrs, yn seiliedig ar eich cynllun hyfforddi. Fel arfer, byddwch yn derbyn o leiaf 40 awr o hyfforddiant arbenigol, unigol gan gerddorion proffesiynol drwy gydol eich cyfnod astudio. Byddwch yn cydbwyso hynny â llawer o hyfforddiant seiliedig ar waith a chyfleoedd perfformio, yn ogystal â chymorth tiwtorial rheolaidd gan fentor.

Ar wahân i’ch hyfforddiant ymarferol, byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau mewn meysydd sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a’ch iechyd fel cerddor.

Bydd y rhaglen hyfforddi drylwyr hon, mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, yn rhoi hwb i'ch hyder, yn gwella eich ymwybyddiaeth o arddulliau a galluoedd artistig, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn astudio sgiliau technegol, arddulliol, artistig a deallusol sy’n sail i bob perfformiad a chreadigrwydd ar lefel broffesiynol.
  • Bydd gennych y rhyddid i greu eich rhaglen astudio eich hun, sy’n seiliedig ar eich cynllun hyfforddi proffesiynol. Cewch gymysgedd o hyfforddiant un i un, darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau perfformio a gweithdai, sydd i gyd yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol o bob cwr o'r diwydiant.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys offerynwyr ac unawdwyr lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr amlwg, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres - yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
  • Byddwch yn cael cymorth mentora drwy’r amser yn ystod eich astudiaethau, a bydd yr arweiniad hwn yn hanfodol i’ch datblygiad fel artist - un sy’n gallu deall a chanfod ei ffordd yn llwyddiannus drwy’r ffordd mae’r diwydiant yn gweithio.
  • Cewch gyfle i gymryd rhan mewn nifer o gyfleoedd perfformio - yma yn y Coleg ac mewn lleoliad proffesiynol - er mwyn i chi gael rhoi eich hyfforddiant arbenigol ar waith.
  • Bydd gennych hefyd fynediad at amrywiaeth sylweddol o gyfleoedd hyfforddi seiliedig ar waith, a bydd y rhain yn cyd-fynd â'r amcanion a’r uchelgeisiau a nodwyd yn eich cynllun hyfforddi proffesiynol.
  • Byddwch yn archwilio cyfathrebu a rhwydweithio fel cerddor proffesiynol ac entrepreneur drwy weithdai sy’n trafod hyrwyddo eich hun. Yma byddwch yn llunio ystod lawn o ddeunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys gwefan, i safon broffesiynol.
  • byddwch yn mynd i ddosbarthiadau sy’n archwilio materion sy’n ymwneud ag iechyd a lles cerddorion. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o faterion iechyd a diogelwch, rhoi trefniadau ymarfer effeithiol ar waith a strategaethau ar gyfer dod dros unrhyw orbryder sy’n codi yn eich bywyd proffesiynol.
  • Mae dosbarthiadau eraill yn y maes hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno eich hun (a phrosiectau) mewn amgylchedd proffesiynol. Byddwch hefyd yn cael dealltwriaeth ddofn o strwythur y byd cerddorfaol yn y DU a thramor, pwysigrwydd rheolaeth ariannol ar sail gwybodaeth a’r angen i groesawu tueddiadau sy’n newid yn y busnes cerddoriaeth.
  • Bob blwyddyn bydd artistiaid adnabyddus o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r Coleg fel rhan o’n rhaglen berfformio. Maent hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr i’n myfyrwyr, a gallwch gymryd rhan yn y rhain, waeth beth rydych chi’n ei astudio. Mae'r gweithwyr proffesiynol hyn, sydd ymhlith y goreuon yn eu maes, yn rhannu gwybodaeth ac arweiniad ac yn eich helpu i wella eich sgiliau i lefel uwch.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf