Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Archwilio penwythnos Taro Tant gyda Kathryn Rees a Helen Sanderson

Kathryn Rees yw Pennaeth Astudiaethau’r Telyn CBCDC a Helen Sanderson yw Pennaeth Gitâr y Coleg a Chyfarwyddwr Artistig yr Ensemble Gitâr Ieuenctid Cenedlaethol. Maen nhw'n dweud wrthym beth i'w ddisgwyl o ŵyl Taro Tant sydd ar ddod.

Rhannu neges

Categorïau

Cerddoriaeth, Beth sydd ymlaen, Gitâr, Y delyn

Dyddiad cyhoeddi

Published on 16/08/2023

Beth allwn ei ddisgwyl gan yr artistiaid gwadd?

Mae Kathryn Rees yn esbonio, 'Yn ogystal â bod yn berfformwyr eithriadol, mae ein gwesteion i gyd yn gwthio ffiniau eu hofferynnau a’u repertoire"

"Mae Parker Ramsay yn dod â’r delyn i gynulleidfaoedd newydd trwy ei archwiliad o offerynnau a gweithiau modern a hanesyddol, tra bod Rhodri Davies yn gweithio yn fyrfyfyr a rhydd. Bydd ei berfformiad yn cynnwys telynau trydan ac acwstig. 

Uchafbwynt gwirioneddol fydd y gitarydd ac enillydd gwobr Grammy, David Russell. Caiff ei edmygu ledled y byd am ei gelfyddyd goeth a bydd yn ein swyno â cherddoriaeth o wlad enedigol y gitâr, Sbaen, yn ogystal â’i wreiddiau Celtaidd ei hun. 

Byddwn yn dathlu chwarae ensemble gitâr drwy gydol y penwythnos ac nid yw’n mynd yn llawer gwell na dawn gerddorol ryfeddol Pedwarawd Gitâr Mēla.' 

Beth arall allwn ni edrych ymlaen ato?

Mae Helen Anderson yn esbonio, 'Bydd Cyntedd Carne yn llawn perfformiadau am ddim dros y penwythnos yn arddangos doniau ensembles o bob rhan o’r wlad, megis Telynau Cymru – tri ensemble ifanc o Orllewin Cymru, Bro Morgannwg a Gwent – ac ensembles gitâr ieuenctid gan gynnwys yr Ensemble Cymrodoriaeth Gitâr Ieuenctid Cenedlaethol.

Bydd perfformiadau hefyd gan fyfyrwyr CBCDC, gan gynnwys yr adran iau, gyda chyfle i glywed sain gitarau a thelynau mewn datganiad cyfunol a fydd yn cynnwys cyfres newydd ei chomisiynu.'

Pa gyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr?

'Mae’r penwythnos yn ymwneud â dod â dysgwyr o bob oed a gallu i mewn i’r coleg, gyda chyfleoedd gwych i weithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr a’n hartistiaid gwadd. 

Bydd Kathryn yn arwain gweithdy telynau gyda Parker Ramsay gan rannu llawenydd chwarae mewn ensemble; a bydd aerobeg bysedd gitâr ar y fwydlen frecwast gyda Helen a thiwtor gwadd, Zoran Dukic, fore Sul. Os na allwch fod yno yn bersonol, gallwch gymryd rhan yn y ffrwd fyw fel sesiwn cynhesu rhithwir. Dilynir hyn gan weithdy cerddorfa gitâr gymunedol gyda Helen a Phedwarawd Gitâr Mēla gydag ymddangosiad arbennig iawn gan David Russell fel unawdydd gwadd. 

Ein gobaith yw y bydd y penwythnos hwn yn ŵyl unigryw sy’n ysbrydoli ac yn ymhyfrydu mewn taro’r tannau.' 

Negeseuon newyddion eraill